A'r 么l sesiynau clirio sbwriel
o wahanol
leoedd ym Methesda, aeth gwirfoddolwyr Balchder Bro
Dyffryn Ogwen ati yn
ddiweddar i blannu bylbiau
Cennin Pedr a thiwlipau yng Nglanffrydlas. 'Roedd y
Cynghorydd Ann Williams
wedi derbyn y bylbiau gan
Gyngor Gwynedd gyda'r nod
o harddu'r ardal.
"Rydym wedi plannu tua
phum cant o fylbiau, rhai ar
ochr y brif ffordd, fel y bydd
pobl yn eu gweld wrth ddod i
mewn i Fethesda," eglurodd
Ann, "a rhai eraill ar yr ochr
arall i'w wal ar gyfer y bobl
sy'n byw ar y stad yn bennaf.
Gobeithio y byddan nhw yn edrych yn ddel yn y gwanwyn ac yn gwneud argraff ffafriol ar ymwelwyr a phobl leol fel ei gilydd. Dwi'n ddiolchgar i Gyngor Gwynedd am ddarparu'r bylbiau am ddim i ni a dwi'n arbennig o ddiolchgar i aelodau Balchder Bro a'u cyfeillion am roi o'u hamser a phlannu'r blodau. Roeddan ni'n lwcus efo'r tywydd ac mae pawb wedi gweithio'n galed. Dwi'n edrych ymlaen at weld y blodau'n tyfu."
Sefydlwyd Balchder Bro Dyffryn Ogwen mewn cyfarfod cyhoeddus ychydig fisoedd yn 么l yn dilyn menter gan aelodau o'r gangen leol o Blaid Cymru i fynd allan a chlirio sbwriel. Eglurodd Dr Paul Rowlinson, Ysgrifennydd Balchder Bro, eu bod yn falch o'r cyfle i ehangu gorwelion y fenter:
"Yn y ddau gyfarfod cyhoeddus dros yr haf, codwyd nifer o syniadau diddorol," meddai.
"Byddwn yn dal i fynd allan i gasglu sbwriel yn rheolaidd ac rydyn ni ar hyn o bryd yn ceisio am grant i wireddu rhai o'r syniadau eraill i wella'r amgylchedd lleol. "Efallai y gallwn ni brynu a phlannu rhagor o flodau y flwyddyn nesaf, er enghraifft, ac rydyn ni'n awyddus i gydweithio efo'r ysgolion lleol."
Mae Balchder Bro yn agored i bawb o bob oed sydd am wneud rhywbeth ymarferol i wella'r fro a'i gwneud yn fwy deniadol. Rydyn ni'n awyddus i gydweithio efo unrhyw un sydd eisiau helpu ac unrhyw fudiad sy'n medru cyfrannu at y gwaith."
Os hoffech helpu, neu os gwyddoch am rywle sydd angen ei glirio, gallwch gysylltu ag Ann Williams ar 601583 neu Paul Rowlinson ar 605365.
|