成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llais Ogwan
Sioe Dyffryn Ogwen 2004 Pwysigrwydd y Sioe Amaethyddol
Gorffennaf 2004
Y mae'r ddeuddegfed sioe ar hugain wedi ei chynnal ym Methesda eleni. Mae'n anodd credu hynny oherwydd cofiaf y s么n a'r siarad am gael sioe ym Methesda.

Roedd yn arwydd pendant fod Bethesda a'r cylch yn closio at ei gilydd. Caf yr argraff nad oedd gormod o serch rhwng y chwarelwyr a'r ffermwyr. Ni fu defaid William Morgan yn gymorth!

Ni f没m yn y sioe eleni, ond clywais o bob cyfeiriad ei bod wedi cael sioe lwyddiannus iawn. Tywydd braf, cystadlu brwd a llond cae o gefnogwyr llawen beth allai neb ei ddeisyfu'n fwy.

Cofiaf fynd gyda fy nhad i'r Sioe Genedlaethol yn Blackpool o bob man, cyn s么n am Sioe Llanelwedd. Dyn ceffylau oedd fy nhad. Welodd o fawr ddim ar y ffordd i Blackpool ar wah芒n i geffylau a gwartheg - ceffylau gwedd yr amser hynny ond ciliodd y naill a'r llall o sioe Bethesda.

Globaleiddio yw gair mawr y dydd a daeth Gwe Gaffi i Fethesda. Cawsom ddosbarth yno i drafod y Mabinogi. Yn Culhwch ac Olwen ceir disgrifiad campus o farch, nid ceffyl gwedd oherwydd nid oedd y ceffyl gwedd wedi datblygu yr amser hynny.

Sonnir am Culhwch yn mynd at Arthur ei gefnder 'ar farch penllwyd-olau, pedair oed, cadarn ei gymal, a'i garn fel cragen a ffrwyn aur bibellog yn ei ben a chyfrwy aur, gwerthfawr oddi tano ...' Os gwn i a oedd march fel yna yn y sioe?

Ond beth bynnag oedd yna y mae'r sioe yn bwysig yn ein diwylliant a'n parh芒d ar ddechrau'r unfed ganrif ar hugain oherwydd pwysau globaleiddio arnom. Ni allwn atal hynny. Ond gallwn gael rhai pethau yn wrthglawdd rhag cael ein difodi ganddo. Y mae sioe yn un o'r pethau hynny. Mae'r sioeau bach yma ac acw yng Nghymru yn hanfodol i ddiogelu'n diwylliant cymunedol ni. Nid oes dim tebyg i gynnyrch gardd a chegin o'n cylchoedd ein hunain. Nid oes eisiau i mi ond cyfeirio at Iyfr Felicity Lawrence Not on the label i ni allu gweld nad ydym yn gwybod beth ydym yn ei brynu - nac yn ei fwyta.

Rhoddir lle amlwg i dreulio hamdden a hyfforddiant i blant yn sioeau heddiw. Nid oes amheuaeth nad yw hynny'n bwysig. Cydetifeddion ydym a chreaduriaid eraill yn y byd ac mae angen i ni atgoffa'n gilydd sut i'w trin a dysgu'n plant sut i wneud hynny. Gallwn gyfeirio at agweddau pwysig eraill mewn sioe ond y mae Dafydd Morris wedi crynhoi'r cwbl yn ei gywydd.

Credaf fy mod wedi dweud digon i ddangos pwysigrwydd y sioe mewn byd technolegol amhersonol sy'n crebachu'n barhaus. Carem ddiolch am ymdrechion a llafur llu o bobl. Hir y parhao'r gweithgarwch.

Y cymunedau sy'n gyfrifol am y sioeau a heb y sioeau ni buasai Sioe Genedlaethol ac y mae honno yn elfen yn ein gwead fel Cenedl.

John Owen


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy