成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llais Ogwan
Ysgol Dyffryn Ogwen Ffederaleiddio Ysgol Dyffryn Ogwen
Mawrth 2003
Fel taranfollt, neu fel huddyg i botas, y daeth y newyddion syfrdanol bod Awdurdod Addysg Gwynedd yn ystyried uno dwy ysgol uwchradd leol, sef Ysgol Dyffryn Ogwen ac Ysgol Tryfan, o dan yr un faner, ac o dan reolaeth yr un Prifathro.

Taranfollt oherwydd nad oedd unrhyw si wedi bod ym mrig y morwydd am ddim o'r fath. Mae'n wir fod cyfarfodydd wedi bod rhyw ddwy flynedd yn 么l i drafod y gostyngiad yn niferoedd disgyblion yng Ngwynedd, ac oblygiadau hynny i drefniadaeth ysgolion, ond roedd cred yr adeg honno fod y sefyllfa yn llawer mwy difrifol yn ne'r sir, yn enwedig, felly, yn y sector cynradd, gyda nifer o ysgolion bychain, rhai gyda llai nag ugain o ddisgyblion. Roedd lle i gredu, felly, y byddid yn delio gyda'r problemau dyrys hyn gyntaf. Ond, wele, cyn ystyried ffederaleiddio ysgolion cynradd sy'n wirion o isel eu nifer disgyblion, mae'r Awdurdod yn ystyried symud ymlaen i gors fwy dyrys o lawer, a ffederaleiddio dwy ysgol uwchradd.

Cyn gosod ambell gwestiwn, mae'n rhaid gosod y bwriad yn ei gefndir a'i gyd-destun. Yn gyntaf, rhaid cydnabod bod bwriadau'r Awdurdod yn rhai hollol anrhydeddus, ac yn codi o bryder gwirioneddol am addysg cyfrwng Cymraeg yn ardal Bangor, yn benodol. A dyna lle mae'r asgwrn yn dechrau glynu yng nghyrn gyddfau trigolion Dyffryn Ogwen. Mae rhyw anesmwythyd fod dyfodol Ysgol Dyffryn Ogwen, sydd a chanrif a mwy o gyflwyno addysg i'r ardal, yn mynd i gael ei aberthu oherwydd difaterwch ardal arall, ac oherwydd cam gwag a gymerwyd gan Awdurdod o'r un enw chwarter canrif yn 么l.

Yn ail, mae'n ffaith wirioneddol fod niferoedd disgyblion yn cwympo, yn y tymor byr, beth bynnag, ac y bydd hynny'n tynnu nifer y disgyblion yn Ysgol Dyffryn Ogwen i tua'r 400 erbyn 2007. Ond dydi'r sefyllfa fawr gwahanol yn unrhyw un o ysgolion uwchradd Meirionnydd, nag yn Ysgol Dyffryn Nantlle a Botwnnog. A fydd ffederaleiddio ar y rheiny? Os y bydd hi'n anodd cynnal cwricwlwm cyflawn yn Nyffryn Ogwen, sut y bydd hi'n haws yn Nolgellau, Y Bala, Blaenau Ffestiniog, Harlech a Phenygroes? Fe nodwyd ei bod yn anodd cynnal cwricwlwm mewn ysgol o lai nag 800 o ddisgyblion. Felly dim ond dwy ysgol hyfyw sydd yng Ngwynedd, sef yr unig ddwy sydd dros 800, Ysgol Syr Hugh Owen gyda 1200, ac Ysgol Friars gyda 1100.

Os ffederaleiddio Bangor-Ogwen, oni ddylai fod cynlluniau ar y gweill i ffederaleiddio'r gweddill? Mae'n ffaith na ellir ei gwadu, hefyd, y bydd gan ELWa ddylanwad mawr ar ddyfodol y Chweched Dosbarth yn ein hysgolion. Ond fydd y bygythiad ddim llai wrth ffederaleiddio'r ddwy ysgol, a fydd yr atebion ddim haws. Os collir y Chweched Dosbarth o'r ysgolion, ar ba un o'r ddwy ysgol uwchradd yn yr ardal hon y bydd yr effaith fwyaf, tybed?

Ond ai Ysgol Dyffryn Ogwen yn disgyn i 400 (lle, gyda flaw, y mae wedi bod o'r blaen, heb i neb ddweud dim) yw'r broblem, ynteu'r ffigwr echrydus o isel allai fod yn Ysgol Tryfan os pery'r duedd bresennol ac, yn enwedig, pe collir y Chweched Dosbarth? Yma mae'n rhaid gofyn a yw polis茂au'r sir yn llwyddo, ac yn mynd i lwyddo yn y dyfodol, nid yn Nyffryn Ogwen, ond ym Mangor. O sawl ysgol gynradd y daw plant i addysg uwchradd Gymraeg yn y ddinas, a pham mae'r sefyllfa fel ag y mae?

Ydi'r ysgol ddynodedig Gymraeg gyntaf yng Nghymru mewn perygl enbyd, ac ai dyna'r gwir reswm dros fygwth annibyniaeth Ysgol Dyffryn Ogwen?

Beth am ambell gwestiwn arall, heb unrhyw drefn benodol na rhesymegol. Mae caniat芒d newydd ei roi i Ysgol Abercaseg gael Dosbarth ychwanegol oherwydd bod yr ysgol yn orlawn o blant. Fe fydd y rhain yn cyrraedd Ysgol Dyffryn Ogwen rhwng 2007 a 2010. Ydi hynny'n ymddangos fel gostyngiad sylweddol mewn niferoedd?

Mae 100% o ddisgyblion Ysgol Dyffryn Ogwen yn sefyll y profion TASau laith Gyntaf. Dylid gofyn beth yw'r canran o blant 14 oed ym Mangor sy'n gwneud yr un peth, neu, yn wir, yn astudio unrhyw elfen o unrhyw bwnc trwy gyfrwng y Gymraeg. Ac a yw'r ateb yn awgrymu pam y mae un ysgol uwchradd yn rhygnu byw, tra bo'r llall yn ffynnu?

A oedd rhoi adeiladau newydd, ac adnoddau arbennig, i un ysgol ym Mangor, tra'n gadael y llall mewn hen adeiladau pyglyd, yn hyrwyddo tegwch o ran dewis, gan gofio mai dewis disgyblion, yn bennaf, yw ysgol uwchradd? Dydi ffederaleiddio ysgolion uwchradd ddim yr un peth a ffederaleiddio ysgolion cynradd; mae'r sefyllfa yn llawer mwy cymhleth, oherwydd bod yr anifail yn Ilawer mwy cymhleth. Rhaid gofyn y cwestiynau canlynol, felly.

Os ydi uno'r Chweched yn fwriad, ym mha un o'r ddwy ysgol y bydd yr uno hwnnw? Ar ba sail y penderfynir hynny? Athrawon o ba ysgol fydd yn eu dysgu? Ar ba sail y'i dewisir?
(Does dim pwrpas uno'r ddwy ysgol heb uno'r Chweched, a hynny fwy neu lai ar unwaith. Byddai uno dosbarthiadau'r Chweched yn peryglu dwy neu dair o swyddi ar unwaith.

Ydi hi'n fwriad cadw staff adrannol llawn ar y ddau safle? Dydi sefydliad efo dau o bopeth, yn enwedig dau Bennaeth Adran, ddim yn gwneud llawer o synnwyr, byddai'n hunllef ei weinyddu, ac yn hynod wastraffus yn ariannol. Beth petai'r ddau Bennaeth Adran yn anghytuno'n sylfaenol ar fater o bolisi, neu weithredu? Pa Benaethiaid Adran fydd yn cael eu hisraddio, gyda'r gostyngiad cyflog perthnasol?

Dydi hi ddim yn gwneud llawer o synnwyr cadw disgyblion ar wahan, os mai cael cwricwlwm llawn ydi'r bwriad. Ac, os am haearn yn hogi haearn, rhaid dod 芒 hwy at ei gilydd o'r cychwyn, fel y gellir cael cwricwlwm a dosbarthiadau ysgol o 800. Ymhle y bydd y gwahanol flynyddoedd? Pam? A fydd un o'r ddwy ysgol yn troi yn uned i ddisgyblion iau, a'r llall i ddisgyblion hyn? A beth am yr athrawon? Fyddan nhw'n cymudo - 5 milltir y tro? Ac fe fydd bysio plant rhwng y ddwy ardal yn digwydd. Gallesid fod wedi gwneud hynny chwarter canrif yn 么l, pan awgrymai rhai nad ysgol arall ym Mangor oedd yr angen, ond cryfhau'r sefyllfa yn Ysgol Dyffryn Ogwen.

Mae'n rhaid cyfaddef, yn y sefyllfa sydd ohoni, yn enwedig ym Mangor, fod syniad yr Awdurdod yn gwneud synnwyr ar bapur. Ond dydan ni ddim yn byw ar bapur! Y mae na berygl gwirioneddol i addysg cyfrwng Cymraeg, yn enwedig ym Mangor. Ond dydan ni ddim yn byw ym Mangor chwaith. Mae'r cynllun arfaethedig yn cael ei gynnig am y rhesymau gorau, rhesymau o gonsyrn am y dyfodol. Ac, yn y pen draw, gan yr Awdurdod y mae'r gair olaf ar drefniadaeth ysgolion yn y sir.

Rydym yn gobeithio y bydd y drafodaeth yn un aeddfed, ac yn cael ei chynnal gyda holl drigolion y dyffryn, yn Ilywodraethwyr, athrawon, cyn-ddisgyblion, disgyblion, rhieni, a rhieni'r dyfodol. Mae'n fater Ilawer rhy bwysig i'w drafod gydag ambell garfan yn unig. Dylai fod yn drafodaeth fydd yn cymryd amser. Nid wiw rhuthro ar fater mor dyngedfennol. Yn ogystal, cyn i'r ffederaleiddio gael ei osod ar y ddwy ysgol, rhaid gweld yn union beth yw'r holl ddyfodol, a beth ywr oblygiadau.

Dydi rhoi un Pennaeth ar y ddwy ysgol, a gadael i hwnnw, neu honno, fynd i'r afael ag unrhyw addasiadau, neu wneud cynlluniau, ddim yn ddigon da, nag yn deg ag unrhyw Bennaeth Awdurdod, fel rhan o'r trafodaethau cyn ffederaleiddio cynllun cyflawn allan. Fel arall, fe allai'r symudiad hwn fod yn agor y drws i sefyllfa, ymhen rhai blynyddoedd, Ile byddai hanner plant a phobl ifanc y dyffryn yn mynd i Fangor am eu haddysg uwchradd.

Yn waeth fyth, gallai'r cyfan ohonynt fod yn gadael mai sefyllfa hynod wastraffus yw addysgu 750 o blant mewn dau adeilad, un gyda'r gallu i gartrefu dros 600, a'r Ilall dros 700. Dydi addewidion heddiw ddim yn parhau'n hir yfory, fel bresennol gydag addysg ddwyieithog ol-16 mewn rh yn dangos. Mae calonnau swyddogion presennol yr Awdurdod yn y Ile lawn, ond beth am swyddogion yfory. Trech arian gwlad nag arglwydd hefyd!

Rhiannon Rowlands


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy