成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llais Ogwan
Awen Teifi Dylunydd Ffasiwn
Gorffennaf 2008
Braf oedd clywed Awen Teifi, Tyddyn Diddos, Llanllechid ar y radio yn ddiweddar yn siarad ar raglen Hywel a Nia am ei gwaith ym myd dylunio ffasiwn.
Graddiodd Awen gyda BA Anrhydedd o Brifysgol San Steffan Llundain yn ddiweddar, wedi iddi gwblhau cwrs tair blynedd mewn dylunio ffasiwn.

Yn dilyn hyn, dewiswyd ei chasgliad o ddillad "couture" o blith cannoedd o fyfyrwyr ffasiwn ledled Prydain i'w harddangos ar y "catwalk" yn Earls Court yn ystod wythnos ffasiwn graddedigion.

Darlledwyd y Sioe yn fyw ar raglen Wedi 7 S4C ac ymddangosodd adroddiadau am ei gwaith mewn sawl papur newydd ple y crybwyllwyd mai hi, efallai, yw'r Stella MacCartney newydd.

Cefndir

Addysgwyd Awen yn Ysgol Llanllechid ac Ysgol Dyffryn Ogwen a thystia iddi gael y diddordeb a'r ysbrydoliaeth tuag at waith celf creadigol yn y Clwb Dwylo Prysur, Capel Carmel, Rachub dan hyfforddiant Mrs Helen Williams. Yn dilyn hyn byddai'n cael llwyddiannau yn Eisteddfodau'r Urdd, yn arbennig gyda gwaith paentio ar sidan.

Gyrfa

Wedi gadael yr ysgol penderfynodd Awen ar yrfa academaidd ac aeth i Goleg Prifysgol Llundain i astudio'r Gyfraith.

Tra yn y coleg cafodd y cyfle i wneud profiad gwaith gyda sawl dylunydd ffasiwn blaenllaw - Alexander McQueen a Boudicca - enwogion yn y byd ffasiwn "couture" i enwi dim ond dau.

Defnyddiau

Mae Awen yn gweithio gyda lledr meddal, lliain a sidan. Mae'r coleri mawr ar y gwisgoedd wedi eu gwneud o ledr, pren ac arian a gellir eu datgysylltu o'r gwisgoedd.

Ar sail y creadigaethau anhygoel yma enwebwyd Awen yn ystod y Sioe ar gyfer Gwobr Mulberry - cwmni enwog sy'n gwneud bagiau a defnyddiau ategol.

Disgrifiwyd ei gwaith fel darnau o gelfyddyd.

Y Dyfodol

Ganol mis Gorffennaf bydd Awen yn ymuno a th卯m y cynllunydd enwog Giles Deacon, yn Old Street, Llundain.

Mae'r gwr yma yn cynllunio dillad "couture" ar gyfer pen ucha'r farchnad ffasiwn. Y prosiect cyntaf gyda'r t卯m yma fydd dylunio a chreu dillad ar gyfer 'catwalk' Wythnos Ffasiwn Llundain.

Feddyliodd Awen erioed y byddai'n dod mor bell o Glwb Dwylo Prysur Capel Carmel ac mae ei diolch yn fawr i Mrs Helen Williams am roddi iddi brofiadau ac ysbrydoliaeth a'i cychwynnodd ar lwybr llwyddiant.

Llongyfarchiadau gwresog i ti Awen a phob dymuniad da ar gyfer y dyfodol.

Os am weld cynlluniau ffasiwn Awen, cliciwch ar y we ar 'catwalking.com' ac yna ar Awen Teifi.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy