Cyflwynwyd Cymrodoriaeth Y
Celfyddydau 2009 iddi yn ogystal a
gwobr ariannol sylweddol mewn
seremoni yn Stiwdio'r Pentagram yn
Notting Hill ar 28 lonawr.
Fei'i henwebwyd ar gyfer y gystadleuaeth gan Dez ac Ali Quarrelle o 'Mythstories', yr
amgueddfa adrodd stori yn Wem,
Sir Amwythig,
wedi iddynt ei gweld
yn perfformio.
Cafodd 120 unigolion o Brydain eu henwebu, a
bu'n rhaid iddi anfon ei phortffolio at
y beirniaid yn ogystal a CD ohoni'n
adrodd stori.
Ar 么l ystyried gwaith yr
ymgeiswyr ac ar 么l gwrando ar eu
perfformiadau, dewiswyd Catherine
ynghyd a thri stor茂wr arall i fynd
Theatr y Barbican yn Llundain i berfformio o flaen y beirniaid a chynulleidfa.
Gofynnwyd iddi berfformio'n ddwyieithog a chafodd y gynulleidfa ganu cytgan Gymraeg cyn iddi ddechrau ar ei stori.
Mae'n debyg fod y beirniad wedi rhyfeddu fod Catherine yn gallu perfformio'n ddwyieithog, ac yn gallu newid o'r Gymraeg i'r Saesneg mor rhwydd a naturiol.
Cyflwynwyd y wobr iddi gan Annie Lennox, a oedd yn arfer bod yn brif leisydd yr Eurythmics.
Ychydig o'i hanes
Fe'i ganed ym Mangor ac ar 么l cyfnod ym Miwmares, symudodd gyda'i theulu bump o weithiau i wahanol ardaloedd gan fod ei thad yn gweithio mewn banc ac yn gorfod symud gyda'i waith.
Graddiodd mewn drama ym Mhrifysgol Aberystwyth a gweithiodd fel actores i sawl cwmni gan gynnwys Theatr Bara Caws, cyn dychwelyd i'r coleg i wneud ymarfer dysgu a chymhwyso'n athrawes.
Yna daeth ei nain, Mrs Malan Williams, ar draws hysbyseb yn y 'Cambrian News' am stor茂wr yn Llyfrgell Caernarfon.
Y bwriad oedd annog plant i ddarllen mwy a defnyddio mwy ar y llyfrgell.
Bu Catherine yn y swydd am bum mlynedd, a bellach mae'n gwneud y gwaith ar ei liwt ei hun, ac wedi perfformio mewn sawl gwlad.
Llongyfarchiadau mawr iddi.
|