Mae Anna yn gwehyddu deunyddiau ar gyfer lIenni a chlustogau mewn lIiwiau cynnes, cyfoethog. Caiff ei hysbrydoli gan liwiau, ffurfiau ac adlewyrchiadau o'r m么r a'i lannau o amgylch arfordir Gogledd Cymru.
Ar 么l mynychu Ysgol Tryfan, dilynodd Anna y cwrs Sylfaen Celf yng Ngholeg Menai cyn cychwyn ar gwrs gradd mewn Tecstiliau ym
Mhrifysgol Metropolitan, Manceinion gan raddio yn 2007. Ers hynny, mae wedi bod yn cynorthwyo gyda gweithdai celf yn ysgolion yr ardal. Dymuniad Anna yw gweithio ar ddatblygu ei pheintiadau, a cheisio denu arian grant er mwyn gallu prynu peiriant gwehyddu ei hun.
Bydd Anna nawr yn defnyddio ei gwobr o 拢1,500 I fynychu gweithdai Francis Moore, sydd yn wehyddwr byd enwog yn Halifax, ble caiff y cyfle i dderbyn profiad gwaith gwerthfawr. Pob llwyddiant i Anna i'r dyfodol.
|