成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llais Ogwan
Jeremy Yates yn esbonio un o'r lluniau yn Oriel Ynys M么n Bydoedd Newydd, Gwaith Newydd
Mehefin 2003
Y mae'n syndod pleserus cymaint o arlunwyr sydd wedi eu magu yn y cylchoedd hyn neu wedi dod yma i fyw.
Nid oes amheuaeth nad yw amrywiaeth diderfyn y tirwedd yn apelio atynt ac yn eu plith Jeremy Yates.

Bellach y mae wedi paentio cannoedd o luniau o'r cylchoedd hyn.

Llwyddodd i apelio at y trigolion oherwydd y mae nifer o bobl, fel ninnau, wedi prynu ei luniau. Trwyddo ddaethom i adnabod y cylch ac i adnabod ein hunain yn well.

Cafodd nifer ohonom fel cymdogion ein gwahodd i gyfarfod agoriadol arddangosfa o'i luniau diweddaraf yn Oriel Ynys M么n yn Llangefni ar nos Wener, Mai 23.

Rwyf wedi bod mewn ambell un o'r cyfarfodydd hyn a'u cael yn eithaf elitaidd. Dyna braf oedd gweld llu o bobl Bethesda yno.

Credaf fod y symudiad hwn yn bwynt cadarnhaol. Pennawd yr arddangosfa yw 'Bydoedd Newydd, Gwaith Newydd'. Mewn byr eiriau y mae'n eglurhad ar yr arddangosfa. Dylai pob un o ddarllenwyr 'Llais Ogwan' wneud ymdrech arbennig i fynd i weld yr arddangosfa sydd ymlaen tan Fehefin 29. Gallai fod yn gymorth i ni weld ni'n hunain yn gliriach.

Yn y lluniau hyn y mae Jeremy Yates yn troi i ddau gyfeiriad, gwahanol iawn i Gymru a gwahanol iawn i'w gilydd. Eglura yn ei nodiadau ei fod wedi hen arfer 芒 mynd at gyfeillion yn Nova Scotia yng Nghanada. Mae'n lle da i enaid gael llonydd ond ychydig o amrywiaeth sydd yn y tirwedd yno gyda'i coedwigoedd eang.

Treuliodd ddau gyfnod o fis yr unyn 1999 a 2000 yn Moscow a'r ardal o gwmpas y ddinas. Nid wedi newid cyfrwng y mae oherwydd y mae'n defnyddio dyfrliw, olew ac acrylig, ond wedi newid cyfeiriad. Y mae'n gam pwysig a dewr yn ei hanes.

Darlunir pobl mewn gwahanol sefyllfaoedd mewn perthynas 芒'i gilydd, ond eto'n bell oddi wrth ei gilydd. Nid oes ofod i draethu ymhellach. Ceir cyfres werthfawr o lyfrau yn Saesneg wedi eu llunio o sylwadau yr arlunwyr am eu gwaith eu hunain. Ni allaf wneud dim yn well na dyfynnu geiriau Jeremy yn llawn o'r catalog.

"Mae fy ngwaith yn adlewyrchu lle yn nhirwedd Nova Scotia, a sylwadau mwy personol ar ddiwylliant Rwsia ac ymwybyddiaeth ohono, diwylliant sydd mor gyfoethog a chymhleth ag unrhyw ddiwylliant Ewropeaidd. Rwy'n sylweddoli mai dim ond cyfran fach o'r posibiliadau sydd ynghlwm wrth brofiad diwylliannol o'r fath ac nid wyf yn honni dim ynghylch y ddelwedd a gyflwynaf ohono yn fy ngwaith. Mae'r arddangosfa hon yn cyflwyno ymateb personol y gorau fedra'i ei wneud ar hyn o bryd i adlewyrchu'r teimladau a'r syniadau y mae fy ymweliadau 芒 bydoedd eraill wedi'u hysgogi. Mae'r gwaith hwn hefyd yn cyflwyno pwyslais newydd ar y ffigwr sydd wedi fy ngalluogi i fynegi rhywbeth am natur frau ac anobeithiol y cyflwr dynol mewn cefndir sy'n bersonol ar y naill law ac yn gymdeithasol ar y llall." Nid oes dim gwell i ddeall yr ysgogiadau y tu 么l i'r lluniau.

Jeremy Yates RCS yn Oriel Ynys M么n, Llangefni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy