成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llais Ogwan
Y Fronllwyd a'i Chriw, a Bethesda yn wyn (Llun gan Melanie Lewis) Bah, Hymbyg a Ballu
Ionawr 2006
Mae'r Nadolig yn ennyn y gwaethaf ynof i.
Unwaith y gwelaf y trugareddau Nadoligaidd cyntaf yn ymddangos yn y siopau, tua chanol Awst gan amlaf, byddaf yn dechrau trawsffurfio'n berson sinigaidd, sgrwjaidd, gyda'r geiriau 'bah, hymbyg' wedi eu stampio ar fy nhalcen. A toedd Dolig 2005 ddim yn eithriad.

Yn y lle cyntaf, tydw i ddim yn berson sy'n gallu gorffwys a mwynhau dan orfodaeth. Yn wir, mae teimlo pwysau i wneud hynny yn creu mwy o dyndra ynof na fyddai lastig thong maint 8, petai Si么n Corn wedi'i gyflwyno'n anrheg Dolig i Ann Widdicombe. Sut mae disgwyl i rywun ymlacio a joio mewn difrif calon, ar 么l bod yn rhedeg fel i芒r Dolig wedi torri'i phen ers wythnos neu ddwy neu dair?

Ac oes yna unrhyw un heblaw amdanaf i sy'n credu bod y siopau mawrion yn ein hwrjo i brynu pethau mwy dwl a mwy diwerth o'u trobyllau tag bob blwyddyn? Faint o bobl ar eich rhestr Nadolig chi fyddai wedi syrthio ar becyn yn cynnwys yr oll sydd angen ei wybod arnoch am folddawnsio fel petai'r pecyn hwnnw'n cynnwys y Greal Sanctaidd ei hun? Na, toedd yna fawr o'r rheini ar fy rhestr innau chwaith.

A beth am sebon? A hylif ar gyfer y bath neu'r gawod? Peidiwch 芒 nghamddeall 卢mi fyddaf wrth fy modd yn derbyn anrheg sy'n cynnwys 'ogla neis'. Ond bellach nid mater o ddewis rhwng arogl rhosyn, neu lafant, neu jasmin ydi hi. Erbyn hyn mae'r hylifau hyn yn hawlio'r gallu i'ch egnioli, i'ch bywiogi neu eich ystwytho, ymysg rhestr ddi-ben-draw o rinweddau eraill.

Ond be fyddai'n digwydd petaech yn cymysgu'r hylif sydd am eich egnioli a'r hylif sydd am eich ystwytho? A fyddech yn teimlo'r un fath yn union ag yr oeddech cyn cychwyn? Neu beth petaech yn cymryd joch o'r hylif sydd am eich bywiogi gymysgu a joch o'r hylif sydd am ei egnioli? A fyddech yn medru stwffio twrci, plicio'r tatws, gwneud y mins pei sgwennu'r cardiau ac addurno'r goeden ar eich union? A rhoi pas i Rwdolff ar eich cefn a chanu Teilwng yw'r Oen mewn pedwar llais ar yr un pryd? Rydw i wedi gweld tyrrau o focsys a thuniau siocled yn ymestyn at y nenfwd yn y siopau mawrion. A siocled wedi'i lunio'n bob math o siapiau - siapiau na fyddech byth yn dychmygu y byddai'n bosib eu creu o siocled (a nifer ohonynt yn siapiau rhy bowld o lawer i'w crybwyll mewn cyfnodolyn parchus fel hwn). Ac am y fraint o fwyta siocled si芒p (llanwch y bwlch fel y mynnwch!) talu o leiaf ddeg gwaith gymaint ag am far o siocled cyffredin cysurlon.

Ar y dydd Mawrth ar 么l Dolig, wedi danfon y ferch i'r stesion, piciais i un archfarchnad (nid yr un fawr newydd sbon danlli sgleiniog - mae pasio honno yn y car yn dod a mi at gyrion nyrfys brecdawn) i n么l manion angenrheidiol megis llefrith a phapur t欧 bach. A choeliwch neu beidio, roedd un silff gyfan yno'n llawn dop o fwydydd Weight Watchers. la, erbyn 27ain Rhagfyr roedd un o'r siopau oedd am ein gweld yn bwyta dros Gymru yr wythnos gynt, nawr am i ni lenwi'n cypyrddau a bwydydd brwydro bloneg.

Ai fi ydi'r unig un, ynteu oes na rywun arall allan yn fan'na'n rhywle sy'n credu ei bod wedi colli'r plot yngl欧n 芒'r Nadolig? Efallai mai'r peth callaf i mi ei wneud fyddai gaeafgysgu gyda'r anifeiliaid. Efallai y gwnaf i ddechrau r诺an - mi fyddwn i'n cael rhyw ddeufis go lew cyn y gwanwyn, a siawns gen i y byddai hyd yn oed sbarion mwyaf sb芒r y tomenni tat (heb son am y treiffl twrci, a'r black forest twrci, a'r sgons twrci a'r . . . ) wedi diflannu erbyn hynny.

Ond cyn i mi fynd ati i lenwi fy mhotel d诺r poeth. Blwyddyn Newydd Dda i chi i gyd!

Diolch i Janice Jones am yr erthygl hon -Gol


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy