Trist meddwl fod y caniedydd p锚r wedi'n gadael. Colled enfawr i Gymru gyfan. Aiff o byth yn angof, a diolch iddo am ein diddanu cyhyd.
Morfudd (Henbarc 'stalwm)'G诺r bonheddig' y canu poblogaidd, g诺r y cefais y fraint fawr i fod yn ffrind iddo.
Arwel, Hogia'r Wyddfa
Atgofion melys a hapus iawn o'r dyddiau 'n么l yn Llanybydder, a'r Hogia'n canu yn ddiddiwedd i'n bodloni ni i gyd. Fe fydd clywed ei lais ar y radio yn rhoi pleser i ni ein dau am byth.
leuan a Davina, Peniel, Caerfyrddin.
Ni chredaf fod yng Nghymru well lleisiwr na Ron.
(Ifan Gymro yn y Gazette, 25 Mehefin, 1969, yn dilyn perfformiad yr Hogia' ym Mhafiliwn y Rhyl.)
Fe fu Alun a minnau yn ffodus iawn o gael ei adnabod. Colled fawr i'r byd adloniant!
John Jones (John ac Alun)
Stor茂wr heb ei ail, cyfaill triw a phenteulu annwyl. Un oedd 芒'i gapel yn agos at ei galon.
Alun Ogwen Jones, Bethesda
Fel finnau, un a oedd wedi ei fabwysiadu gan bentre' Llandygai oedd Ron, ac yn gymaint g诺r bonheddig a 'run o'r rhai a fagwyd yn y castell!
Y Parchedig J Aelwyn Roberts
Roedd Ron yn berson arbennig iawn bob amser yn hynaws ac yn barod ei sgwrs a'i w锚n. Roedd hefyd yn berson egwyddorol. Os byddai'n rhoi ei air, byddai'n si诺r o gadw ato. Un o'r pethau sydd yn sefyll allan gennyf fi amdano oedd yr ymdrech fawr a wnaeth i fwrw ei bleidlais yn etholiadau'r Cyngor Sir flwyddyn yn 么l. Roedd ar ei ffordd i Clatterbridge y bore hwnnw i ddechrau ei driniaeth, ond rhaid oedd cael troi i mewn i'r Ganolfan yn Rachub ben bore i roi ei groes ar bapur. Dyna'r math o berson oedd Ron. Os oedd o wedi rhoi ei air, fe allech ddibynnu arno!
Arthur Rowlands, Tregarth
Mae gennyf fi, a llawer o'm ffrindiau yn y De, atgofion melys iawn am Ron a'r Hogie'. Byddwn bob amser yn mwynhau rhannu llwyfan gyda hwy, a phawb ohonom yn hoff iawn o gael bod yn eu cwmni wedi i'r cyngerdd ddod i ben.
Ifan Davies, Capel Dewi, Caerfyrddin (Ifan JCB - Arweinydd Nosweithiau Llawen)
Caiff ei gofio, nid yn unig am ei gyfraniad gyda'r Hogia', ond hefyd am ei barodrwydd i gefnogi sawl achos. Cofier yn enwedig ei gyfraniad diflino yng Nghapel Bethlehem, Talybont.
Richard Lloyd (Llandygai gynt)
Fydd p'nawn Sadwrn tua Bangor 'ma byth yr un fath eto. Cefais lawer i sgwrs ddifyr hefo Ron dros banad yng Nghaffi'r Felin Bupur - a rhoi'r byd yn ei le wrth gwrs. Atgofion melys am hen hogyn iawn.
Jonsi, Radio Cymru
Colled i ffrindiau oes - colled i'r ardal, ac yn sicr colled i Gymru. G诺r hynaws i fod yn ei gwmni. Cawsom y fraint o brofi'r hynawsedd yma ar nifer o achlysuron. Cofio'r w锚n, y chwerthiniad a'r hiwmor, ac yn bennaf oll y cyfeillgarwch.
Myrddin a Rosalind
Canwr - heb ei ail! Llais arbennig ac unigryw. Llais a sicrhaodd yrfa faith i'r Hogia'! Cwmn茂wr - difyr a hwyliog! Cymwynaswr - parod bob amser! Crefftwr - saer coed medrus y mae 么l ei ddwylo i'w weld mewn llawer man - yn arbennig yn ein t欧 ni. Cyd-ddiacon - cydwybodol a gweithgar! Cyfaill - y gorau!
Nev.