Dro ar 么l tro ceir enghreifftiau o lwyddiannau trigolion y fro mewn amrywiol feysydd celfyddydol a hynny ar raddfa genedlaethol neu hyd yn oed yn ehangach.
Teilwng yw'r Oen
Dros y misoedd diwethaf, mae
cnewyllyn o bobl yr ardal wedi bod
yn ymgynnull er mwyn ceisio
gwireddu breuddwyd sawl un.
A'r
freuddwyd? Llwyfannu " Teilwng
yw'r Oen" yn y fro gyda rhai o'n
henwogion, tra, ar yr un pryd, roi
cyfle i bawb - boed ifanc neu'n
hen, boed brofiadol neu'n ddi-brofiad - i fod yn rhan o'r perfformiad rhyfeddol hwn.
Fersiwn cyffrous o oratorio enwocaf Handel, y Meseia, yw "Teilwng yw'r Oen", a hynny gydag offerynnau traddodiadol a modern.
Capel Jerusalem
Mae'r esgyrn sychion yn eu lle. Yn ddiweddar cadarnhaodd swyddogion Capel Jerusalem, Bethesda, eu parodrwydd i ganaiat谩u i'r fenter ddefnyddio'r adeilad ar gyfer y perfformiad ac ar gyfer cynnal ymarferion. Mawr yw diolch aelodau'r pwyllgor i'r swyddogion am eu cefnogaeth. Y mae'r artistiaid hefyd yn eu lle.
Artistiaid Proffesiynol
Tasg anodd iawn i'r pwyllgor oedd ceisio dewis artistiaid ar gyfer y perfformiad, a hynny yn sg卯l y ffaith fod cymaint o ddewis! Ond, daethpwyd i gytundeb yn sydyn iawn gyda'r penderfyniad i wahodd artistiaid proffesiynol i gymryd y rhannau unigol.
Pleser felly yw gallu cyhoeddi mai'r artistiaid fydd Lleuwen Steffan, Martin Beattie a Lisa J锚n. Y llefarwyr ar gyfer y perfformiad fydd neb llai na John Ogwen ac Angharad Llwyd. Tipyn o restr ynte?! A phwy a 诺yr, hwyrach y bydd ambell artist arall yn cyfrannu eitemau yn ogystal - darllenwch dudalennau'r Llais er mwyn cael y diweddaraf bob mis.
Beirdd a Llenorion
Ond, mae mwy na hyn hyd yn oed!! Diau y gwyddoch fod yr ardal yn mwynhau cyfraniadau beirdd a llenorion o safon cenedlaethol hefyd, a than arweiniad y Prifardd Ieuan Wyn, fe'u gwahoddwyd i gyfansoddi darn o farddoniaeth neu ryddiaith yn benodol ar gyfer yr achlysur.
Bydd yr awduron eu hunain yn darllen ffrwyth eu llafur yn ystod y perfformiad, a hyderir y bydd y gwaith yn cael ei gyhoeddi mewn rhifynnau dilynol o'r Llais.
Dechrau Ymarferion
Bydd y perfformiad mawr ar 20fed o Ebrill 2008 a bydd yr ymarfer cyntaf ar Nos Sul, Ionawr 13eg, yng Nghapel Jerusalem am 7.00pm. Gwahoddir unrhyw un sydd 芒 diddordeb mewn bod yn rhan o'r C么r i ymuno. Does dim rhaid i chi allu darllen cerddoriaeth hyd yn oed, na dysgu'r geiriau chwaith! Dewch i fod yn rhan o bennod arall lwyddiannus yn hanes diwylliannol y Dyffryn.
Felly, o ateb y cwestiwn ar frig y dudalen?? Ydyn ni'n "Deilwng"? Yr ateb yw - wrth gwrs ein bod nil!