成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llais Ogwan
Y King's Head Blwyddyn newydd dda
Ionawr 2007
Newyddion da
Yn ystod wythnosau olaf y flwyddyn 2006 pleser oedd gweld rhai busnesau newydd yn dod i'r ardal.
Croesawn gwmni 'Britannia' a siop 'Llyfrau Ogwen' sydd wedi agor ar y stryd fawr ym Methesda.

Dymunwn bob llwyddiant iddynt yn ystod 2007, a hefyd i'r holl fusnesau presennol sy'n gweithredu yn yr ardal. Mae'n bwysicach nag erioed ein bod, fel trigolion, yn cefnogi ein masnachwyr lleol. Dymuniadau da hefyd i Mary a Richard Owen (Bers) sydd bellach wedi cymryd tenantiaeth y 'King's Head', ar ei newydd wedd.

Newyddion da hefyd yw cael gwybod bod cynlluniau ar y gweill i adeiladu 'Canolfan Iechyd' newydd i'r ardal, fydd yn cynnwys meddygfa a fferyllfa yn ogystal a gwasanaethau amrywiol eraill yn ymwneud ag iechyd. Mae'r ganolfan newydd i'w hadeiladu ar y tir o flaen y Clwb Rygbi, ym mhen draw Ffordd Stesion. Mae'n gynllun uchelgeisiol sy'n mynd i weddnewid y gwasanaeth yn Nyffryn Ogwen. Gobeithir gallu cynnwys cop茂au o'r cynllun yn y Llais fis nesaf. [Gol.]

Newyddion drwg
Mae 'Banc Lleol y Byd', yn 么l broliant HSBC eu hunain, wedi penderfynu troi cefn ar drigolion a busnesau lleol Dyffryn Ogwen.

Maent wedi cyhoeddi y byddant yn cau drysau eu cangen ym Methesda am y tro olaf ar Chwefror 27. Golyga hyn na fydd gennym fanc o gwbl i'n gwasanaethu o fewn y dyffryn - ac mae llawer iawn o bobl yn gandryll gyda HSBC oherwydd hyn.

Mae Cyngor Cymuned Bethesda yn teimlo'n gryf iawn ar y mater, ac fe anfonwyd dirprwyaeth o dri chynghorydd, sef Ann Williams, Godfrey Northam a Neville Hughes i gyfarfod y rheolwr, Mr Phil Hughes, i ofyn os oedd modd i'r banc ail-ystyried eu penderfyniad, ac efallai agor am lai o oriau.

Yr ateb a gafwyd oedd bod y penderfyniad i gau wedi ei wneud ac yn ddi-droi'n 么l. Mae Cyngor Cymuned Bethesda wedi cefnogi banc lleol bob amser ond yng ngoleuni'r sefyllfa ddiweddaraf bydd y Cyngor yn rhoi ystyriaeth ddwys i'w drefniadau bancio yn y dyfodol.

Mae 'na rai wedi bod yn ymgyrchu'n frwd yn erbyn cynlluniau'r HSBC gyda Mrs Gina Griffiths, Caffi Ogwen, wedi trefnu deiseb sydd a rhai cannoedd o enwau arni eisoes.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy