Rhowch rywfaint o'ch cefndir:
Fe ges i fy magu yn Rogerstone ger Casnewydd yng Ngwent. Roedd teulu mam yn dod o Gwmcarn a theulu dad o Henllys.
Mi es i Ysgol Basaleg ac wedyn i Brifysgol Caerdydd i astudio cerddoriaeth.
Ar 么l graddio, mi es i'r Coleg Cerdd a Drama i wneud blwyddyn o gwrs 么l-radd - y git芒r clasurol a'r liwt oedd fy offerynnau i, ac ro'n i'n chwarae mewn deuawd o gwmpas Caerdydd.
Ar y pryd, doedd gen i ddim syniad be roeddwn am wneud fel gyrfa, ond wrth lwc, roedd recordio sain yn rhan o'r cwrs ac fe dyfodd y diddordeb yn y maes yma.
Ar 么l cwblhau'r cwrs coleg, cefais waith fel Rheolwr Stiwdio yn y 成人快手 yn Llundain. Roeddwn yn gweithio ar raglenni radio'r World Service yn Bush House a hefyd yn Broadcasting House.
Er fy mod i wrth fy modd efo'r swydd newydd, doedd byw yn Llundain ddim yn siwtio hogan o'r wlad o gwbl!
Ar 么l dros ddwy flynedd yno, daeth y cyfle i symud am 6 mis i'r 成人快手 yng Nghaerdydd ac ar 么l hynny i Fangor.
Tra'n gweithio ym Mangor, mi wnes i gyfarfod a Dylan, fy ng诺r, ac fel mae nhw'n
dweud, the rest is history!
Ers hynny,
rydym wedi cael merch, Mari, sydd erbyn hyn yn 8 oed ac yn mynychu Ysgol Llanllechid, ac mi rydw i a Dylan yn
gweithio fel peirianwyr sain ar ein liwt ein hunain.
Beth fyddwch yn mwynhau ei wneud yn eich amser hamdden?
Mae Dylan a minnau'n hoff iawn o gerdded ac yn gwneud hynny mor aml a phosib.
Peth arall sy'n rhoi pleser mawr i mi ydi garddio ond mae'n rhaid i mi gyfaddef mai 'fair-weather gardener' ydw i!
Dwi hefyd yn aelod o'r Clwb Celf ym Methesda a mawr yw fy niolch i Anwen Burgess, yr athrawes, am yr holl anogaeth!
Mae mynychu'r Clwb Celf hefyd wedi arwain at ailafael yn y git芒r. Ar 么l peidio chwarae am tua 15 mlynedd, dwi r诺an yn chware mewn deuawd hefo Llew Owen o Dregarth sy'n briod 芒 Val, ffrind o'r gwersi clef.
Cael amser i wneud yr holl bethau 'ma ydi'r broblem!
A oes gennych hoff le yng Nghymru?
Llawer ohonyn nhw! Dwi wrth fy modd yn cerdded y mynyddoed o gwmpas Llanllechid a Dyffryn Ogwen.
Mae Llanddwyn yn lle ysbrydol - arbennig iawn.
Hefyd mae'r mynyddoedd o gwmpas yr hen bwll glo yng Ngwmcarn lle'r oedd taid yn gweithio yn agos at fy nghalon.
A oes gennych hoff le y tu allan i Gymru?
Mae 'na gymaint o lefydd prydferth o gwmpas y byd. Un lle cofiadwy iawn ydi British Columbia yng Nghanada.
Aethom ni yno am dair wythnos rai blynyddoedd yn 么l, ac roedd y golygfeydd a'r teimlad o ehangder yn anhygoel.
Beth yw eich hoff fwyd?
Mae tecawe gan Abdul ar Stryd Fawr, Bethesda yn anodd iawn i'w guro!
Beth yw eich hoff raglen Gymraeg ar S4C?
'04 Wal' - mae'n apelio at yr ochr fusneslyd ynof!
Pwy yw eich hoff berfformiwr cerddorol/gr诺p o Gymru?
Rydym mor lwcus i gael cymaint ohonyn nhw! Mi es i weld Catrin Finch yn ddiweddar ac mi roedd hi'n wych!
Mi rydw i hefyd yn hoff o'r Stereophonics ac roedd Jess yn fand gwreiddiol iawn.
Beth yw'r peth gorau neu fwyaf buddiol i chi ei gael erioed?
Mae t欧 gwydr, wrth gwrs, yn beth handi i arddwr ond y bwgan mawr yma yn Llanllechid ydi'r gwyntoedd cryfion sy'n chwythu o gyfeiriad Moelyci bob gaeaf -
mae nhw wedi mynd a dau ohonyn nhw oddi yma'n barod!
Tua blwyddyn yn 么l, mi wnaethom ni osod un newydd - mae
iddo si芒p pyramid ac mae'r gwneuthurwyr yn honni y gall wrthsefyll y stormydd sydd i'w cael ar ynysoedd Gorllewinol yr Alban. Mae o'n dal yma beth bynnag!
Pa dymor o'r flwyddyn yw eich ffefryn, a pham?
Mae i bob tymor ei rinweddau wrth gwrs, ond os oedd rhaid dewis un, mi faswn i'n dewis yr Hydref.
Mi rydw i wrth fy modd efo'r lliwiau a'r llonyddwch arbennig sy'n nodweddiadol o'r tymor yma.
Ar 么l holl brysurdeb yr haf, be sy'n well nag eistedd
efo llyfr o flaen y t芒n neu gerdded trwy goedwig gollddaill?
Beth yw'r cyngor gorau a gawsoch erioed?
Dwi'n credu bod y canlynol yn ganllaw da:
God grant me the senility to forget the people I never liked anyway, the good
fortune to run into the ones I do, and the eyesight to tell the difference.
Hefyd, cyngor fy nhad i beidio a phrynu dim os nad wyt ti'n gallu talu amdano.
Beth sy'n eich gwneud yn hapus?
Cael amser efo fy nheulu a gwybod ein bod i gyd yn iach ac yn hapus.