Cymaint oedd brwdfrydedd y rhai a welodd stor茂au Marian Jones fel yr aethpwyd ati i gomisiynu deuddeg llyfr efo'i gilydd. Bellach mae'r cop茂au cyntaf wedi gadael y wasg ac o fewn y mis nesaf bydd y deuddeg llyfryn am anturiaethau amrywiol Ceri a Huw yn cyrraedd pob ysgol gynradd yng Nghymru. Mae disgyblion Ysgol Llanllechid wedi mwynhau darllen am Ceri, Huw a'r ci drwg ers nifer o flynyddoedd bellach, ac wrth eu boddau'n trafod y darluniau a darllen y stor茂au. Cawsant gyfle i actio'r cymeriadau mewn sawl sioe, canu'r caneuon, a pheintio lluniau Ceri a Huw. Profwyd yn Ysgol Llanllechid, fod y stor茂au nid yn unig yn boblogaidd gyda'r plant a'u rhieni, ond hefyd yn llwyddiannus iawn fel cymorth i ddysgu iaith yn ei holl agweddau, yn nosbarthiadau'r Babanod. Mae'n debyg mai llwyddiant y llyfrau yw eu symlrwydd - mae'r stor茂au'n fyr, y darluniau'n lliwgar, a dydi'r brawddegau ddim yn gymhleth. Mae'r eirfa sy'n y llyfrau wedi dod o 'fyd' plentyn. Dydi'r llyfrau ddim ar werth yn y siopau eto, ond fel tamaid i aros pryd - gallwch weld perfformiad o 'Coeden Nadolig Ceri a Huw' gan blant Dosbarth Derbyn Ysgol Llanllechid ar 10 Rhagfyr. Noddwyd y cyhoeddi a'r dosbarthu gan yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol a chefnogwyd y fenter gan Gyngor Gwynedd. Gwasg y Bwthyn fu'n gyfrifol am yr argraffu, ac maent i'w canmol yn fawr am ddiwyg hyfryd y llyfrau. Llongyfarchiadau i Mrs Marian Jones am ei champwaith!
|