成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llais Ogwan
Chris Bird-Jones gyda'i champwaith Cofio'r Aberth
24 Tachwedd 2003
Roedd dydd Sadwrn, Hydref 18 a dydd Sul, Hydref 19 yn ddiwrnodau prysur a chyffrous yng ngwaelodion Bethesda.
Yr achlysur oedd dadorchuddio'r ffenestr liw yng Nghapel Bethania wedi dwy flynedd o waith caled a chyson arni gan yr arlunydd preswyl hynaws Chris Bird-Jones o Langollen mewn cydweithrediad 芒 Cefyn Burgess.

Yn 么l Cefyn, ffrwyth prosiect aelodau Clwb Celf Ogwen ac Ysgol Sul Bethania ydi'r ffenestr. Y bwriad yw iddi fod yn deyrnged in gorffennol yn y dyffryn drwy goffau Streic Fawr y Penrhyn a hefyd, ar ddechrau milflwydd newydd, i fod yn cynrychioli dechrau newydd, yn sicr dechrau gwell nag a gafwyd yn yr ardal hon ganrif yn 么l! Roedd y sicrwydd a'r gobaith i'r dyfodol sydd yn Salm 121, Dyrchafaf fy llygaid ir mynyddoedd . . . yn ystyriaeth bwysig iawn wrth fynd ati i lunio'r ffenest.

Nid ffenestr liw yn y dull traddodiadol mo hon, ac mae hi, felly, yn hollol wahanol i'r hyn yr oedd rhai ohonom wedi disgwyl ei gweld. Wedi dweud hynny, mae hi'n ffenestr hardd, liwgar a golau iawn, yn arbennig felly pan oedd yr haul yn disgleirio drwyddi fore Sadwrn. Yr hyn sydd yn hynod ynglyn 芒'r ffenestr hon yw bod y gymuned gyfan wedi cael cyfle i gymryd rhan yn ei datblygiad - ysgolion y fro, cymdeithasau ac eglwysi'r ardal, plant ac oedolion, i gyd wedi bod a rhan yn ei chynhyrchu.

Mae nifer fawr wedi ysgythru negeseuon o bob math ar y ffenestr drwyddi draw - ambell i englyn, pennill, emyn neu gwpled, rhai ohonynt er cof am anwyliaid gynt. Hefyd ambell neges o obaith i'r dyfodol. Yn 么l Chris Bird-Jones mae hyn yn atseinio un o hen arferion yr ardal, sef yr arferiad o gerfio enwau a negeseuon ar lechi, crawiau, pileri, pontydd a hyd yn oed ar seddi capeli ac eglwysi. Roedd Chris wedi sylwi eu bod yn britho'r fro, a dyna sut cafodd hi'r syniad i wneud rhywbeth tebyg hefo'r ffenest.

Wrth gwrs, mae'n rhaid i chi fod yn agos iawn at y gwydr i fedru darllen y negeseuon, ac mae'r hyn a ddarllenwch chi yn dibynnu hefyd ar y goleuni sydd yn llifo drwyddi o'r tu allan. Mae hwnnw'n gallu amrywio o funud i funud bron, h.y. rhan o swyn y ffenest yw eich bod yn medru gweld a darllen pethau gwahanol ar adegau gwahanol.

Roedd y capel dan ei sang ar y bore Sadwrn pryd y cafwyd cyfarfod gwerth chweil dan lywyddiaeth Cefyn Burgess. Yn cymryd rhan roedd ieuenctid Bethania, rhai o blant ysgolion y fro, C么r Ysgolion Cynradd Dyffryn Ogwen, C么r Ysgol Dyffryn Ogwen, Ysgol Sul Carmel Llanllechid, Manon Llwyd a'i thelyn, lochen yn cyfeilio, Debbie Allen a Jaquie Marshall (Genod Gospel o Gaerdydd) a Ch么r Gospel Dyffryn Ogwen. Pam dod 芒 dwy ferch tywyll eu croen i achlysur o'r math hwn? Pam dod 芒 blas y Carib卯 i Fethesda? Fe'n goleuwyd gan Cefyn. Y cysylltiad oedd y caeau siwgr yn Jamaica, ble gwnaeth teulu'r Penrhyn eu ffortiwn ar gefnau'r brodorion tlawd dros ganrif yn 么l!

I gloi'r Wyl gofiadwy hon cynhaliwyd Cymanfa Ganu lwyddiannus yng nghapel Bethania, gyda Mr Trystan Lewis, BA o Ddeganwy yn arwain a Mr D Wyn Williams wrth yr organ. Cafwyd darlleniadau gan Sioned Pearce a Sioned Jeffries, Bethania, ac offrymwyd gweddi gan Mair Owen Pearce. Mwynhawyd eitemau gan G么r Meibion y Penrhyn, Manon Llwyd, a Debbie, Jaquie a'r C么r Gospel. Y Parchedig Gwynfor Williams oedd yn llywyddu. Recordiwyd y Gymanfa ar gyfer Caniadaeth y Cysegr ar Radio Cymru.Braint oedd bod yn y ddau gyfarfod, a diolch i bawb yng nghapel Bethania ac i Bwyllgor Gwyl Goffau Streic Fawr y Penrhyn.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy