Mae menter o'r fath yn gwbl hanfodol er mwyn cynorthwyo gyda'r gorchwyl o gynnal ac adfer Cymreictod y fro.
Mae Menter laith Gwynedd yn dod o dan ofal Cyngor Gwynedd, a'r gobaith yw y bydd gweithredu trefn ddatganoledig gyda sefydlu mentrau iaith lleol ledled y sir. Mae gweithredu o fawn y gymdeithas leol yn allweddol i gynnal a chryfhau'r iaith, a byddai'n gam sylweddol ymlaen pe bai Dyffryn Ogwen yn cael Menter Iaith cae yn llunio rhaglen gynhwysfawr i gwmpasu'r ardal gyfan a sicrhau bod gan bawb gyfraniad.
Mae'r farn wybodus yng Nghymru, gan gynnwys Bwrdd yr laith Gymraeg a Llywodraeth y Cynulliad, yn gytun yngl欧n 芒'r ffactorau sy'n tanseilio'r iaith Gymraeg.
Ymhlith y ffactorau mwyaf dylanwadol mae'r mewnlifiad Saesneg ei iaith; allfudiad siaradwyr Cymraeg; nifer gynyddol o aelwydydd sydd ag un o'r rhieni'n ddi-Gymraeg yn magu plant yn Saesneg; a dylanwad hollbresennol y diwylliant Eingl-Americanaidd Saesneg aml-gyfrwng.
Amcanion Menter laith Dyffryn Ogwen fyddai meithrin agwedd gadarnhaol tuag at y Gymraeg, hyrwyddo a hwyluso defnyddio'r Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd pobl Dyffryn Ogwen, cyflwyno'n hiaith i deuluoedd di-Gymraeg, a chreu bwrlwm adloniadol a diwylliannol Cymraeg yn yr ardal, gyda phwyslais arbennig ar weithgareddau plant a phobl ifanc.
Rhaid dod a chyffro newydd i'r bywyd Cymraeg yn Nyffryn Ogwen, a'r unig ffordd a wneud hynny yw trwy'r plant a'r bobl ifanc. Mae angen datblygu ffurfiau diwylliannol Cymraeg newydd a fyddai'n codi o ddiddordebau'r plant a'r bobl ifanc eu hunain, a byddai sefydlu panel pobl ifanc yn hanfodol fel man cychwyn.
Rhan hanfodol o'r fenter fyddai sefydlu Fforwm Bro a fyddai'n
cynnull cynrychiolwyr cymdeithasau lleol a'r ysgolion i hybu gwaith y fenter.
Rhagwelir mai amcanion y fforwm fyddai creu brwdfrydedd a denu trigolion yr ardal i mewn i'r gweithgarwch yn ei holl agweddau, a hynny trwy ledaenu gwybodaeth am weithgareddau a datblygiadau, dosbarthu deunyddiau, a chynorthwyo'r
hyrwyddwyr iaith gyda threfnu a chynnal gweithgareddau."
|