成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llais Ogwan
Llys Dafydd Llys Dafydd
Mai 2009
Ar 么l blynyddoedd o drafod mae'r cynlluniau i ddatblygu hen safle yng nghanol y pentref yn symud ymlaen.
Ar 么l blynyddoedd o gyfarfod er mwyn ceisio datblygu y safle gwag a adnabyddir fel "Llys Dafydd" ynghanol y Stryd Fawr, mae Cwmni Llys Dafydd wedi llwyddo hyd yn hyn i sicrhau bron i 拢70,000 o gefnogaeth ariannol er mwyn cychwyn ar y gwaith o greu gofod cymunedol a fydd o ddefnydd i'r pentref i gyd.

Bydd y gwaith cychwynnol o dirlunio'r safle yn cychwyn ddiwedd mis Mai eleni.

Mae'r chwarel yn garedig iawn yn cyflenwi'r holl lechi sydd eu hangen i gwblhau'r safle fel rhodd tuag at y prosiect cymunedol.

Bwriad y Cwmni a'r Cyngor Cymuned yw cydweithio i greu gofod yng nghanol y pentref a fydd yn ffocws ar gyfer bywyd cymunedol a hefyd yn fan amlwg i ddarparu gwybodaeth i ymwelwyr i Ddyffryn Ogwen.

Bydd y gofod yn ardaloedd cynnwys ardaloedd i eistedd a chymdeithasu, byrddau dehongli ar gyfer ymwelwyr i Ddyffryn Ogwen gyda gwybodaeth yngl欧n a hanes a threftadaeth y Dyffryn, llwybrau beicio a cherdded a gwasanaethau lleol.

Bydd yno hefyd ardal ar gyfer perfformiadau awyr agored (hynny yw, llwyfan ar gyfer corau a grwpiau lleol pan fydd digwydd卢iadau achlysurol ar y safle yn ogystal a stondinau lle efallai y gellid cynnal marchnad fwyd leol, ffair Nadolig ac yn y blaen.)

Mae'r Cwmni hefyd yn edrych ar y posibilrwydd o godi canopi dros ran o'r safle ac adeilad bach i gynnig lluniaeth a gwasanaethau sylfaenol yn achlysurol ar gyfer digwyddiadau cymunedol.

Mae'r pensaer Maredudd ab Iestyn eisoes wedi creu cynlluniau ar gyfer y safle ac mae cais cynllunio ffurfiol wedi ei gymeradwyo gan Gyngor Gwynedd.

Gobeithir y bydd y gwaith ar y safle wedi ei orffen erbyn diwedd y flwyddyn.

Er mwyn i bobl ifanc yr ardal gymryd rhan yn y prosiect, bydd Fferm Moelyci yn cydweithio gyda disgyblion o Ysgol Dyffryn Ogwen ar brosiect plannu ar y safle a bydd plant ysgolion cynradd yr ardal hefyd yn cael y cyfle i wneud gwaith celf a fydd yn canolbwyntio ar weithio efo llechen ac yn cael ei arddangos ar y safle ei hun.

Pam na wnewch chi felly ymuno a ni yn ein bore coffi yn Neuadd Ogwen ar y 4ydd o Orffennaf er mwyn gallu taro golwg manylach ar y cynlluniau yma a rhoi syniadau inni am sut y byddech chi'n hoffi gweld y gofod yn cael ei ddatblygu a'i ddefnyddio.

Os am wybodaeth bellach, mae croeso i chwi gysylltu gydag ysgrifennydd y Cwmni ar 602509.

Caren Brown


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy