Anrheg ar l锚s am dair blynedd ydi'r bws mini gan Chwarel y Penrhyn, a dyna'r rheswm dros gael enw masnachol y chwarel, sef 'Welsh Slate' ar y bws yn ogystal ag enw'r ysgol. Dywedodd y prifathro, Mr Alun Llwyd, ei bod yn freuddwyd gan bob ysgol gael bws mini newydd, 'ond y dyddia yma all yr un ysgol fforddio prynu un newydd heb gael cymorth ariannol o rywle'. Felly daeth y cynnig yma gan y chwarel fel manna a'r nefoedd. Dywedodd Mr Llwyd fod cysylltiad agos wedi bod rhwng yr ysgol a'r chwarel ers nifer a flynyddoedd, ac yn naturiol mae nifer o rieni'r ysgol yn gyflogedig yno. Mr Chris Lowe, Rheolwr Gyfarwyddwr y chwarel, gynigiodd y syniad i'r ysgol fel cyfraniad tuag at hybu gweithgareddau cymunedol, a dywedodd y prifathro na fu'n rhaid iddo feddwl yn hir iawn cyn derbyn y cynnig! Bydd y bws newydd, sydd yn ddigon mawr i ddal t卯m rygbi ac un chwaraewr wrth gefn, yn cael ei werthfawrogi'n fawr iawn gan y disgyblion a'r staff, a dywedodd Mrs Catrin Williams, Cadeirydd Llywodraethwyr yr ysgol, eu bod i gyd yn wirioneddol ddiolchgar am gefnogaeth y chwarel. Roedd cymdeithas cyfeillion yr ysgol eisoes yn casglu ar gyfer prynu bws mini newydd, ond mi gaiff arian y gymdeithas bellach fynd at adnoddau eraill yn yr ysgol. Mae'n braf dweud y bydd disgyblion yr ysgol bellach yn trafaelio mewn moethusrwydd modern, gyda system awyru a ffenestri tywyll! Diolch i Chris Lowe a'r chwarel am eu cefnogaeth. O.N. Deallwn mai gwaith cyntaf y bws oedd cario parti o'r ysgol i gystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym Mae Caerdydd. Braf oedd gweld degau o bobl ifanc yn canu yn y corau ar noson olaf yr Eisteddfod. Teitl y g芒n olaf un oedd 'Mae ddoe wedi mynd - mae fory'n eiddo'i ni'. Beth amdani bobl ifanc y Dyffryn - beth am ffurfio Aelwyd erbyn y flwyddyn nesaf - mae'r dyfodol yn eich dwylo chi. Gol.
|