成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llais Ogwan
C么r Ysgol Tregarth Llwyddiant arbrawf
Rhagfyr 2009
Oherwydd diffyg cystadlu a chefnogaeth yn y gorffennol, penderfynodd Pwyllgor Eisteddfod Gadeiriol Dyffryn Ogwen newid ychydig ar drefn cystadlu'r Eisteddfod eleni.

Yn hytrach na chael cystadlu ar ddydd Sadwrn o fore gwyn tan berfeddion nos, fe gynhaliwyd noson o gystadlu ar y nos Wener, gyda diwrnod o gystadlu ar y dydd Sadwrn i blant ysgolion cynradd.

Ddydd Sadwrn, cychwynnodd y cystadlu am 10 gan orffen yn daclus am 5 y prynhawn. Roedd Neuadd Ysgol Dyffryn Ogwen dan ei sang trwy'r dydd a phawb yn gadael ar yr un pryd wedi i'r corau gloi cystadlu'r dydd.

I'r rhai ohonoch a ddaeth i Neuadd Ogwen nos Wener, 20 Tachwedd, rwy'n si诺r y byddech yn cytuno bod y gynulleidfa wedi cael gwledd o'r dechrau i'r diwedd.

Gan fod yr Eisteddfod yn cynnig gwobrau mawr eleni ar y nos Wener, fe lwyddodd hynny i ddenu cystadleuwyr talentog iawn o bell ac agos.

Hefyd, roedd yn dda gweld ein talentau lleol yn serennu ar y llwyfan yn y cystadlaethau.

Teithiodd pedwar c么r i Ddyffryn Ogwen i gystadlu yn erbyn ein corau lleol, Cororion a Ch么r Meibion y Penrhyn a chafwyd noson o gystadlu gwerth chweil.

Yng nghanol y cystadlu nos Wener, cynhaliwyd seremoni'r Orsedd a da oedd gweld teilyngdod ym mhob un o'r categor茂au llenyddol i goroni'r noson.

Yn 么l Lowri Roberts, Ysgrifennydd y Pwyllgor, "Mae hyn wedi bod yn garreg filltir bwysig yn hanes yr Eisteddfod leol.

"Rydym wedi llwyddo i chwyldroi'r Eisteddfod gan fynd o niferoedd cynulleidfaol bychan a siomedig a diffyg cystadlu i neuadd lawn gyda nifer dda o gystadleuwyr - rhai lleol a rhai sydd eisoes wedi llwyddo ar lwyfan cenedlaethol.

"Cawsom feirniaid adnabyddus megis Robart Arwyn a Maldwyn John hefyd.

Mae'n rhaid anelu'n uchel i lwyddo. Roedd bwrlwm nos Wener yn fendigedig - dyma'r ffordd ymlaen yn sicr."

Meddai'r Cadeirydd, Si芒n Esmor Rees, "Ar y cyfan, rwy'n teimlo bod y drefn newydd wedi gweithio'n eithriadol o dda.

"Mi wnaethon ni lwyddo i ddenu cystadleuwyr o safon uchel iawn ac roedd nos Wener yn noson o adloniant i'r gynulleidfa.

"Roedd Eisteddfod y plant ar y dydd Sadwrn yn llwyddiant mawr unwaith eto."


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy