Roedd yr ysgol eisoes wedi ennill 拢2,000 gan BT i sefydlu gwefan ar Jamaica ac i rannu eu profiadau gydag ysgolion eraill ledled Cymru a'r byd. Ac er mawr lawenydd i'r disgyblion, staff a Mrs Gwenan Davies Jones, cyhoeddwyd fod y wefan a'r cynnwys yn gyfraniadarbennig i ddinasyddiaeth a chyfathrebu gan wobrwyo eu hymdrechion gyda gwobr gyntaf o 拢10,000. Cyfeiriad y safle yw Dosbarthiadau Mr Huw Edward Jones a Mrs Hanna Huws fu wrthi'n brysur yn creu y safle llwyddiannus hwn. Mae pawb yn yr ysgol wedi gwirioni'n l芒n ac yn edrych ymlaen i ddathlu mewn steil. Mae'n hyfryd fod cwmni mor flaengar a BT wedi dyfarnu'r wobr gyntaf i YsgoI Llanllechid. Medrwch ddychmygu'r hwb enfawr i'r disgyblion ar 么l clywed y newyddion da. A wyddoch chi beth? Mae'r 拢10,000 am fynd tuag at ddatblygu y cynllun hwn ymhellach. Felly mae amser cyffrous o'u blaenau yn Ysgol Llanllechid!
|