成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llais Ogwan
Ann Catrin wrth ei gwaith Agor Drysau
Ionawr 2005
Go brin fod neb wedi methu agoriad ysblennydd Canolfan y Mileniwm yn ddiweddar yn y brifddinas, ond tybed a wyddoch fod gan rywun lleol ran 'allweddol' yn y fenter hon?
Mae Ann Catrin Evans, neu Ann Bryn Cul (Tregarth) i'r rhai hynny sy'n ei hadnabod, wedi chwarae rhan flaenllaw yn natblygiad y Ganolfan.

Dechreuodd drwy lunio'r allwedd a fyddai'n agor y drws am y tro cyntaf, a bu hwnnw ar daith yn pasio trwy ddwylo blaenllaw ein cenedl, yn berfformwyr, gwleidyddion a cherddorion. Bu'r allwedd yn Efrog Newydd yng nghwmni Bryn Terfel cyn teithio trwy Baris, St Petersburg, Salzburg, yr Eidal, De Affrica a Siapan cyn dychwelyd i Gymru.

Ond mae ei chyfraniad yn mynd ymhellach oherwydd hi fu'n gyfrifol am yr handlenni drysau a'r platiau gwthio ar y prif ddrysau. Mae'r handlenni yn atgoffa rhywun o'r crymannau a ddefnyddid gan hen ffermwyr Cymru slawer dydd, ac mae'r platiau wedi'u creu'n hynod gelfydd allan o haearn ac yn adlewyrchu grym a phrydferthwch d诺r gyda'r rhychau arnynt yn hynod debyg i'r creithiau ar y tywod ar 么l y trai.

Dywed Ann iddi ffurfio'r platiau gyda'i llaw rydd ac felly dylent deimlo'n dda i'r sawl a fydd yn cyffwrdd ynddynt.

Ar 么l graddio gydag anrhydedd ym Mhrifysgol Brighton, astudiodd Ann Catrin Goed, Metel, Serameg a Phlastigau. Arbenigodd mewn creu addurniadau drws traddodiadol a gwreiddiol mewn haearn, ond parhaodd i greu mewn amryfal gyfryngau, megis gemwaith, offer, dodrefn yn ogystal a phrosiectau cyhoeddus ar raddfa fawr.

Enillodd wobrau dirifedi megis y fedal aur yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2002, Gwobr Merched mewn Busnes a Bwrsari Cyngor Celfyddydau Cymru. Gwerthir ei gwaith ledled y byd. Cydnabyddir Ann bellach ar lwyfan rhyngwladol, ac mae ei chyfraniad i Ganolfan y Mileniwm nid yn unig yn tanlinellu hyn, ond hefyd yn gwbl haeddiannol.

Mae gan ei gwaith bresenoldeb pwerus, tra'n llwyddo i fod yn gynnil a syml, yn wreiddiol ac yn heriol. Felly, os cewch gyfle i ymweld a'r Ganolfan, cofiwch, wrth agor y drysau, fod tipyn bach o'r ardal y tu 么l i'r wledd weladwy sydd o'ch blaen.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy