Y Prifathro Thomas N Corns, o Gilfodan, Carneddi, yw'r g诺r y daeth yr anrhydedd bwysig hon i'w ran, ac fe'i gwahoddwyd i'r cyfarfod blynyddol yn San Diego, Califfornia, ar 28 Rhagfyr, 2003 i dderbyn ei wobr. "Rhyw fath o Seremoni Oscars i Feirniaid Llenyddiaeth y 17eg ganrif," oedd disgrifiad y Prifathro Corns. Mae'r Prifathro Thomas N Corns, MA, DPhil (Oxon), FRHistS, FEA, yn arbenigwr ac yn awdurdod rhyngwladol ar fywyd a gwaith y bardd Milton, ac fe'i anrhydeddir am ei waith a'i gyfraniad aruthrol yn hybu diddordeb yn y bardd arbennig hwn, yn ogystal ag mewn Llenyddiaeth Saesneg y 17eg ganrif yn gyffredinol. Mae'n awdur toreithiog sydd wedi cyhoeddi nifer fawr o lyfrau yn y maes hwn. Un o Prescot, Swydd Gaerhirfryn yw'r Prifathro Corns. Enillodd ddoethuriaeth mewn Llenyddiaeth Saesneg yn Rhydychen cyn cael ei benodi yn ddarlithydd yn Adran Saesneg Prifysgol Cymru ym Mangor yn 1965. A dyna pryd y daeth i fyw i Gifodan. Mae'n briod 芒 Pat, ac mae ganddo ddau fab, Robert a Richard. Mae Robert yn feddyg yng Nghaerdydd a Richard yn astudio yng Nghaergrawnt - y ddau wedi bod drwy'r system addysg yn ysgolion Pen-y-bryn a Dyffryn Ogwen, ac yn rhugl eu Cymraeg. Mae'r Prifathro Corns bellach yn Bennaeth yr Ysgol Gelfyddydau a Dyniaethau y Brifysgol ym Mangor. Llongyfarchiadau calonnog iddo ar ennill y fath anrhydedd!
|