Mae'n si诺r eich bod yn cofio'r hanes mewn rhifyn cynt o'r Llais.
Ar
y pryd roedd angen i Gareth godi dros 拢3,000 iddo gael ei dderbyn gan yr
elusen Changing Worlds.
Felly yr Affrig ac nid y brifysgol oedd yn hudo.
Mae Gareth yn aros ar lan Llyn Nakuru sy'n rhan o Barc Cenedlaethol
Cenia, ond nid ar saffari y mae Gareth ond yn gwarchod a dysgu mewn
cartref i blant amddifad.
Yn y cartref mae tri chant o blant rhwng tair a deunaw oed.
Ar yr ail o
Chwefror rhoddodd ei wers Saesneg gyntaf i chwe deg o blant.
Diolch
bod Gareth wedi mynd a llawer o offer ac adnoddau a brynwyd gyda'r arian noddedig gydag ef.
Bydd Gareth yno am chwe mis, a gan nad yw'n
derbyn cyflog mae'n hunan-gynhaliol tra'n gwneud ei orau i rai llai ffodus
nag ef. Felly, mae'r ap锚l yn dal yn agored.
Braf oedd gwe/d y gymdeithas o'n cwmpas yn rhoi mor hael tuag at yr
ape/.
Do, fe godwyd y swm oedd ei angen, a dymuna'r teulu ddiolch i
bawb a weithiodd ac a gyfrannodd tuag at roi cymorth i blant Nakuru.
Fe hoffai Gareth diolch yn arbennig i'r hogia', Osian, Amos, Ifan a Sam
am gerdded gyda ef yn ddirwgnach ar y daith noddedig i ben yr Wyddfa,
ac i Anti Dot a Gwerfyl Owen am gasglu arian.
Hefyd, pawb a ddaeth i'r
Barbeciw yn y glaw. Diolch i Linda ac Arwel, Helen a Dylan, Rita a Peter,
Glenys Rowlands (Nain) ac Angela Jones am drefnu.
Diolch yn arbennig i
Martin Ryder am ddisgo ac ocsiwn arbennig o hwyliog. Diolch i Sara
(chwaer), Rachael a Holly, a chronfa disgyblion Ysgol Dyffryn Ogwen am
wneud a gwerthu cacennau.
Ar 么l y Nadolig cafwyd noson arbennig iawn gan Hogia'r Bone yn y Clwb Criced. Diolch i Twm, Phill a Waiter am drefnu noson fythgofiadwy a
diolch i Antony Roberts a Barry Davies am ganu a chwarae'r git芒r mor
grefftus.
Hoffai Gareth ddiolch i'r holl noddwyr, tai-tafarnau Pen-y-Brenin a'r
Victoria, a phawb sydd wedi cyfrannu neu helpu mewn unrhyw ffordd.
Diolch o galon i chi i gyd.