Gan fod Mr Griffiths wedi s么n am ei brofiad teimladwy o ganfod carreg fedd Cymro, sef Parry Glyn Morgan, bachgen 23 oed o bentref Llanfallteg, Sir Gaerfyrddin gyda'r geiriau Cymraeg ami - 'Yn angof ni chaiff fod'.
Aethom i chwilio am y garreg fedd ar ein hymweliad.
Wrth chwilio, daethom ar draws bedd Cymro arall yn y 7fed rhes ar yr ochr dde i'r brif fynedfa gyda'r cwpled Gymraeg yma wedi ei dorri ami:
Dros ei wlad y rhoes ei Iw
Dros f么r fe droes i farw.
Ar 么 dychwelyd adref, canfuwyd mai bedd bachgen 26 oed o Bontardawe ydoedd, a roes ei fywyd ymhell o'i famwlad ar 24.12.43, sef Elfed Jones (Signalman 2336678) o'r 18fed Adran, Royal Corps of Signals, mab i Evan a Mary Anna Jones.
Cyfeimod y bedd oedd Llecyn 2, Rhes G, Bedd 35.
Cawsom hefyd gyfle i ymweld ag Amgueddfa JEATH (Japan, England, Awstralia/America, Thailand a Holland) i'r Rhyfel sy'n portreadu hanes erchyll y caledi a'r dioddefaint a ddaeth i ran y carcharorion dan law'r Siapaneaid wrth iddynt orfod ymlafnio yn y gwres lIethol i adeiladu'r rheilffordd i Burma.
Profiad dirdynnol a thrist oedd darllen yr hanes a gweld lIuniau'n dangos y dioddefaint yn sgll diffyg maeth, gwaith lIethol a dihoeni gyda salwch, ac yna gweld y rhesi 0 feddau yn y fynwent.
Gareth Llwyd
|