Ychach chi'n un o'r miloedd sy'n meddwl y byd o'r ardal hon? Wrth gwrs eich bod chi!
Ar y llaw arall, ydach chi'n un sydd yn cywilyddio ac yn
digalonni oherwydd y blerwch a'r budreddi sydd ar ein strydoedd, ein llwybrau , ein hafonydd a phob man arall?
Ydach chi'n un sydd yn credu y dylid gwneud rhywbeth yngl欧n a'r broblem?
Os ydach chi'n teimlo felly, mae yna wahoddiad agored i chi ymuno a gr诺p cymunedol newydd Balchder Bro Dyffryn Ogwen sydd yn benderfynol eu bod am fynd i'r afael a'r sefyllfa er mwyn gwella'r amgylchfyd yn y Dyffryn.
Ymhlith y gweithgareddau a drefnir fydd ymgyrchoedd casglu sbwriel
mewn gwahanol ardaloedd o fewn y Dyffryn.
Yn wir, mae'r gwaith wedi cychwyn yn barod gyda chriw o tua dwsin o aelodau yn glanhau'r llwybr
o Bias Ffrancon i Garneddi. Cyn hynny bu criw o aelodau Plaid Cymru aIlan ddwy waith yn tacluso yng nghyffiniau Pantdreiniog, Cae Star a Chae Gas.
Clywsom hefyd bod aelodau o Gymdeithas Pysgotwyr Ogwen wedi clirio pob math o sbwriel o'r afon a'i glannau.
|