Mae Trystan, sy'n Brifathro ar ysgol breswyl arbenigol a choleg chwaraeon Springfields yn Calne, Wiltshire, wedi cael ei ddewis allan o gannoedd o athrawon o bob cwr o Brydain a'i anrhydeddu gyda'r teitl Athro Proffesiynol Gorau 2008.
Yn ogystal a'r Tywysog yr oedd
llawer o s锚r o'r byd adloniant a'r cyfryngau yn yr achlysur lliwgar a gynhaliwyd ym Maes Criced Thomas Lord yn Llundain ar nos Lun, 27 Hydref 2008. Roedd Dil a
Wil wrth eu boddau.
Mae Trystan hefyd wedi cael ei enwebu gan Gymdeithas Chwaraeon Ieuenctid Prydain i gyfarfod ag Ed Balls, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg i drafod ffyrdd o wella ansawdd bywyd pobl ifanc trwy chwaraeon. Yna bydd Trystan yn hedfan i Tseina i astudio
eu cyfundrefn Addysg Arbennig.
|