成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llais Ogwan
Rhodri Evans Tipyn o gamp!
22 Rhagfyr 2003
Mewn eisteddfod a fu'n llwyddiant ysgubol o safbwynt nifer a safon yr ieuenctid oedd yn cystadlu, camu tua'r ail filltir heb amheuaeth wnaeth Rhodri Evans o Erw Las yn ddiweddar.
Yn brif ddisgybl ym Mlwyddyn 13 yn Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda, ef oedd i fod yn Archdderwydd yn ystod Seremoni'r Orsedd yng nghyfarfod yr hwyr, ond yr oedd ganddo syniadau amgenach. Y llynnedd fe lwyddodd i osgoi unrhyw gyfrifoldeb yn yr Orsedd trwy ddod yn fuddugol yng Nghystadleuaeth Medal yr Ifanc.

Tipyn o gamp, meddech, wel ie, debyg. ond nid oedd Rhodri yn fodlon ar hynny, oherwydd eleni ef enillodd Fedal Lenyddieth Agored Eisteddfod Dyffryn 0gwen! Yr enillydd ieuengaf mewn cof!

Mewn cystadleuaeth o safon, dywedodd y beirniad, Y Prifardd Meirion Macintyre Huws fod dawn dweud gynnil yr awdur hwn yn pefrio ym mhob brawddeg a'i fod yn awdur sylwgar a deifiol o gynnil ar adegau. Dyfarnodd fod Dagrau Hallt, fel y'i llysenwid ef, yn llawn haeddu'i anrhydeddu 芒'r wobr gyntaf. Dylid nodi fod Rhodri wedi trechu llenorion o bell ac agos a rhai llawer mwy profiadol nag ef.

Mewn oes sy'n fwy na pharod i gollfarnu a pheintio ein pobl ifanc a'r un brwsh pardduol, pleser yw gallu cofnodi lwyddiant Rhodri, yngyd 芒'r toreth o bobl ifanc a ildiodd eu dydd a nos Sadwrn er mwyn cyfrannu tuag at barhad y diwylliant Cymreig yma yn Nyffryn Ogwen. Pleser oedd i gymaint ohonom ninnau'r rhai hyn gael rhannu eu cwmni ar noson o'r fath.

'I Rhodri
Aeth graen ei ryddiaith gryno
Yn llwyddiant ei haeddiant o.'

(Ieuan Wyn)


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy