Ar Chwefror 28, cyrhaeddodd Mrs Katie Griffiths - gynt o Tyddyn Canol, ond yn awr yn preswylio ym Mhlas Ogwen - ei chanfed pen-blwydd. Fe'i ganed yn y Gerlan, ond bu'n byw yn Lerpwl pan yn blentyn cyn i'r teulu ddychwelyd i'r ardal ac i Rachub i fyw. Dechreuodd weithio yn ifanc iawn. Aeth i weini i Lerpwl a theithio yno ei hun, o Rachub, a hithau ond deuddeg oed. Priododd 芒 William Rolant Griffiths a bu iddynt ddau o blant; Eurwen a'r diweddar (erbyn hyn) Eifion. Yn ystod ei bywyd yn Rachub bu'n ddiacones am flynyddoedd yng nghapel Carmel. Yn berson o hiwmor iach roedd bob amser yn chwerthin yn rhadlon. Roedd yn goblyn am grwydro, wrth ei bodd, unai o gwmpas yr ardal, neu ymhellach ar fordeithiau o gwmpas y byd! Fel yr 'Happy Wanderer', y cyferchid hi gan Robin Coetmor Williams! Yn wir, pan yn ei 80au aeth - ar ei phen ei hun - i Hong Kong i aros at ei 诺yr David a'i wraig. Fe grwydrodd yn y fan honno hefyd - a mynd ar goll! Does neb a 诺yr hyd y dydd heddiw, sut y dychwelodd yn 么l i gartref David! Pan yn ifanc bu Katie Griffiths yn gweini yn Ficerdy Glanogwen. Erbyn hyn mae'n preswylio yno. Cartref Plas Ogwen yw'r adeilad erbyn hyn a'r bobl yno yn awr yn gweini arni hi. Trefnwyd parti iddi yn y cartref gan Mrs Bate a'i staff. Trefnwyd hefyd i Mrs Jane Parry a Mrs Glenys Roberts i ddanfon basgedaid o flodau iddi ar ran Clwb Pensiynwyr Rachub. Mrs Margaret Roberts, 2 Hen Ysgol oedd wedi gosod y trefniant hardd yma. Cafwyd pnawn hyfryd i ddathlu, gyda Mr Robin Coetmor Williams yn rhoi gair o gyfarchiad a rhannu atgofion, gyda Dafydd Bullock - un arall o hogia' Rachub yn difyrru'r cwmni 芒'i lais cyfoethog. Bu mam Mrs Griffiths fyw i fod yn 96. A dyma hithau yn awr yn 100. Oes hir ac oes hapus a gweithgar. Ac yn 么l pob s么n mae hi'n dal yn gym锚r! Mrs Griffiths - ein cofion gwresocaf atoch chi ar y pen-blwydd arbennig yma.
|