Cyhoeddodd Gruff, sy'n wreiddiol o Fethesda, ei bod yn braf bod yn 么l, a rhannodd hanesion yngl欧n 芒 Neuadd Ogwen, pan oedd yn arfer mynd yno fel plentyn.Roedd yr holl berfformiad yn Gymraeg gydag Alun Tan Lan yn cefnogi, ac roedd y gynulleidfa'n frwdfrydig drwy'r noson. Gyda thoriadau eithaf hir rhwng perfformiadau, teimlai'r mwyafrif o'r gynulleidfa'r angen i ymweld 芒'r tafarnau lleol a oedd yn gyfrifol am heclo anghyffredin dros ben!
Agorwyd y llenni i ddatgelu llwyfan wedi ei addurno gyda phlanhigion plastig, goleuadau Nadolig, aderyn mecanyddol a nifer helaeth o allweddellau ac offerynnau anghyffredin a doniol o syml. Safodd Gruff Rhys yng nghanol y llwyfan yn gwenu ar y gynulleidfa groesawgar ac yn gwisgo ei het wl芒n sydd bellach yn estyniad ohono!
Y peth cyntaf iddo ei wneud oedd tynnu'r raff!. Rhoddodd gerddoriaeth ramantus yn y cefndir a gofyn am gael atsain ar ei lais. Chwarddodd o ddeall bod yr enillydd yn ennill gwyliau i ddau yn Jamaica.
Wrth edrych arno roedd yn amlwg ei fod yn berfformiwr wrth iddo sefyll yn hollol hyderus o flaen y gynulleidfa a chario'r ffaith ei fod wedi anghofio'r geiriau wrth chwerthin ynghyd a'r gynulleidfa ac osgoi penillion y g芒n. Cymerodd ei sedd a thrafod ei fod wedi bod yn chwarae'r git芒r ar ei phen i lawr drwy ei holl yrfa gerddorol. Dangosodd hefyd ddarn roedd wedi ei ychwanegu at y git芒r er mwyn creu'r edrychiad ei bod y ffordd iawn. Roedd yn hollol gyfforddus ac roedd y gynulleidfa wedi ei swyno o'r dechrau.
Roedd ei gerddoriaeth yn syml ac yn arbrofol wrth iddo ysgwyd bocs matsys o flaen y meicroffon a'i recordio. Yna ychwanegodd offerynnau, harmon茂au a geiriau gwahanol i adeiladu at gerddoriaeth orffenedig hynod o effeithiol wrth ailadrodd y sain gwahanol gyda'i gilydd.
Ymhellach ymlaen yn y set penderfynodd newid yr awyrgylch i'r s诺n cefn gwlad ar gyfer Cacan 糯y Rhan 1. Recordiodd ei aderyn mecanyddol yn canu a chynnwys y gynulleidfa frwdfrydig a oedd yn fwy na pharod i gyfleu synau geifr. Unwaith roedd yn fodlon gyda'r effaith a'r naws, chwaraeodd y g芒n. Ar gyfer Cacan 糯y Rhan 2 creodd awyrgylch y ddinas wrth ddefnyddio peiriant syml yn gwneud synau trenau, ceir a hyd yn oed llong ofod!
Nid dim ond ei ganeuon diweddar y chwaraeodd ond rhai o ganeuon y Super Furry Animals yn cynnwys Y Teimlad, a ch芒n Ffa Coffi Pawb gyda'r gynulleidfa'n cydganu iddi.
Wedi iddo adael y llwyfan, ar 么l llawer o erfyn a chlapio yn y neuadd, dychwelodd Gruff Rhys yn diolch a chario ymlaen gyda rhagor o ganeuon.
Gorffennodd drwy wahodd Alun Tan Lan i gyfeilio ar y banjo i'r clasur, Chwarae'n Troi'n Chwerw. Gadawodd y llwyfan yn gwenu a'r gynulleidfa gyfan yn hapus dros ben gyda'r noson.
Wedi'r perfformiad, dywedodd Gruff ei fod wedi mwynhau'n fawr ac yn falch o gael bod yn 么l ym Methesda. Wrth gymharu perfformio'n unigol 芒 pherfformio gyda'r Super Furry Animals dywedodd ei bod yn well ganddo fod gyda'r band ond ei fod yn gweld ei gerddoriaeth ei hun yn eithaf doniol, a chwarddodd ei fod yn bwriadu dysgu'r geiriau erbyn diwedd y daith. Gobeithiwn yn fawr nad Yr Atal Genhedlaeth fydd ei unig albwm unigol ac y bydd yn dychwelyd i Fethesda eto cyn bo hir. O ystyried ymateb gweddill y gynulleidfa, dyfalwn bod Bethesda gyfan yn gyt没n ar y mater.
Gwenllian Dafydd ac Elin Gwyn