Dyna a gyflwynwyd i Gyfarfod Cyffredinol yn Neuadd Ogwen ar 15 Mai.
Ar 么l edrych ar ganolfannau megis Eureka! yn Halifax, Swydd Efrog, mae'r Pwyllgor am ddefnyddio cymeriadau o l锚n Cymru i greu canolfan i ddifyrru ac addysgu plant a'u teuluoedd.
Bydd cyfle iddynt arbrofi a dysgu "trwy wneud" am agweddau fel y corff a'r synhwyrau, yr amgylchedd a newid hinsawdd, a'r cartref a gwaith.
Mae gwaith ymchwil a gomisiynwyd yn awgrymu y bydd modd denu hyd at 30 i 35,000 y flwyddyn o ymwelwyr. Bydd hefyd yn bosibl denu o leiaf 5,000 o blant ar dripiau addysgiadol o ysgolion cynradd M么n, Arfon a Chonwy.
Dyluniwyd adeilad newydd tri llawr gan y pensaer Maredydd ab lestyn. Yn ogystal a'r atyniad ei hun bwriedir cael siop cofroddion a chaffi ar gyfer ymwelwyr yn ogystal a stiwdio gerdd ar gyfer pobl ifanc yr ardal.
Ar sail 40,000 o ymwelwyr y flwyddyn bydd hyn yn galluogi Llys Dafydd i roi cyflogaeth i bum person llawn amser a dau berson rhan amser yn y pen draw.
Yn dilyn derbyniad ffafriol y cynllun yn y cyfarfod cyhoeddus y mae'r Pwyllgor yn awr yn y broses o sefydlu cwmni cymunedol "nid am elw" i oruchwylio'r gwaith o wneud ceisiadau am y grantiau fydd eu hangen i ddatblygu'r adeilad ac yna i redeg y gweithgareddau.
Anelir at gychwyn y gwaith ddechrau 2008 ac agor erbvn Pasg 2010.
|