Cefndir:
Rwy'n 29 oed. Mynychais Ysgol Penybryn, yna Ysgol Tryfan, Bangor. Cefais radd Saesneg ym mhrifysgol Bangor ac yna Tystysgrif 脭l-radd mewn Newyddiaduraeth. Rwy'n astudio cwrs uwchraddedig MBA ar hyn o bryd. Fy swydd yw Rheolwr Cysylltiadau Corfforaethol yn Ysbyty Gwynedd, rwy'n briod ag Emma ac yn byw ar Allt Penybryn.
Beth fyddwch yn mwynhau ei wneud yn eich amser hamdden? Dilyn clwb p锚l-droed Lerpwl, darllen, chwarae p锚l-droed, teithio ac yfed cwrw a gwin coch da!
A oes gennych hoff le yng Nghymru? Does ond angen edrych o gwmpas Dyffryn Ogwen i werthfawrogi harddwch Cymru ar ei orau - mae'n anodd iawn curo'r olygfa a geir ar 么l dim ond rhyw hanner awr o gerdded i fyny at Gwm Idwal.
Oes gennych hoff le y tu allan i Gymru?
Cefais y pleser mawr o dreulio fy mis m锚l yn Borneo. Roedd y golygfeydd, y bywyd gwyllt a'r croeso gan y bobl leol yn anhygoel.
Beth yw eich hoff fwyd?
Wedi i mi dreulio wythnos yn Rhufain mi gafodd y bwyd fwy o argraff arnaf na'r Colosseum a'r Vatican, felly bwyd Eidalaidd yw fy ffefryn i o bell ffordd!
Beth yw eich hoff raglen Gymraeg ar S4C?
Braidd yn hen erbyn hyn, ond mae eistedd i lawr i wylio C'mon Midffild yn dal i wneud i mi chwerthin!
Pwy yw eich hoff actor/actores o Gymru?
Rhys Ifans - roedd o hyd yn oed yn gallu gwneud ffilm ferchetaidd fel Notting Hill yn werth ei gweld!
A oes gennych hoff lyfr Cymraeg?
Mae unrhyw lyfr gan Eirug Wyn yn dipyn o arwyr i mi.
A oes gennych arwr/arwres?
Wnes i ddim sylweddoli gymaint o arwr oedd o tan ei farwolaeth drist ychydig fisoedd yn 么l, ond fel dyn ac fel chwaraewr rygbi rhyngwladol, roedd Ray Gravell yn rhywun y gallai pawb ei edmygu.
Beth yw'r cyngor gorau a gawsoch erioed?
Mae cyngor fy nain a fu farw y llynedd wastad wedi bod yn ddefnyddiol i mi: "If you can't be good, be careful!!"
|