成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llais Ogwan
Now yn diddanu gyda'i gyfaill Sionyn Ffarwel Haf
Medi 2004
Teyrnged i Now Hogia Llandegai
Traddodwyd ar ddydd ei angladd yng Nghapel Bethlehem, Talybont, brynhawn Mawrth, 31 Awst, 2004 a baratowyd gan Neville Hughes, a chyflwynwyd gan y Parchedig Geraint Hughes:
'Dyma job ydi hon' - geiriau Now ei hun wrth iddo gyflwyno hanes ei fywyd yn Hogia Llandegai, Y Llyfr - a job ydi hon heddiw wrth inni ddod yma i ddiolch a dathlu bywyd Owen Glyn Jones. Rydan ni am gofio a ffarwelio a ffrind a chyfaill annwyl, ac i gofio am hogyn o'r ardal hon a ddaeth yn un o enwogion y genedl.

A dathlu a wnawn - bydd hynny' n dod yn amlwg yn ystod y gwasanaeth - cawn gyfle i wenu a chwerthin - fyddai Now ddim am inni fod yn drist wrth gofio am ei fywyd - a thaflwn ddeigryn hefyd wrth gofio - a diolchwn am gymeriad annwyl a llawn. Roedd calon Now yn agos iawn i'w lle ac yr oedd ganddo galon fawr, er yn aml iawn yn llawn direidi. Profais innau hynny wrth ei gyfarfod - a'r ddau gocyn hitio bob tro oedd Ron a Neville!

Ganwyd Now yma ym mhentref Talybont, ac fel y dywedodd ef ei hun, 'y pumed o' r saith plentyn a anwyd i William a Nel Jones'. Un o ddyffryn Nantlle oedd ei dad, a'i fam o'r fro hon, o'r Carneddi. Cydymdeimlwn yn ddiffuant iawn a'r teulu sydd yma hefo ni heddiw a chofiwn yn arbennig am Helen sydd yn methu bod hefo ni.

Fel nifer o fechgyn eraill y dyffryn i weithio i'r chwarel, ond cyn hynny gweithiodd fel bachgen ysgol i gwmni E B Jones, yn 'cario allan' ar ddydd Sadwrn, ac nid oedd hynny heb broblemau chwaith fel ydywedai wrthym yn llyfr 'Yr Hogiau'. Bu hyn yn gyfle iddo brynu mowth organ iddo'i hun a dyna ddechrau tro newydd yn ei fywyd. Aeth y mowth organ i bobman wedyn - hyd yn oed i'r dwyrain canol pan oedd yn yr armi yn gwneud ei 'National Service'.

Daeth cyfle iddo fynd ar y radio wedi iddo ddychwelyd adra rhaglen Awr y Plant - canu'r mowth organ a dynwared anifeiliaid. Gweithiodd i Balfour Beatty a hefyd i'r relwe - aeth, fel y dywedai wrthym i Bedford i weithio am gyfnod a bod yn nes at ei chwaer Mair, ond dychwelodd yn 么l i'w gynefin. Cofiwn am y rhaglen deledu amdano yn gweithio i Gyngor Gwynedd ond tu cefn i'r cyfan oedd canu'r mowth organ adynwared.

Roedd ganddo ddiddordeb mawr mewn canu gwlad, ffilmiau cowbois - roedd John Wayne yn arwr mawr ganddo - a byddai wrth ei fodd yn gwisgo het gowboi. Mwynhaodd Gymanfaoedd Canu a bu' n gefnogol iawn i'r Eglwys hon pan wynebodd yr aelodau gostau mawr tua deng mlynedd yn 么l, a fo awgrymodd mai da o beth fyddai i'r Hogia gynnal cyngerdd mawreddog er mwyn helpu'r Eglwys. Fel y dywedais funudau yn 么l yr oedd ei galon yn y lle iawn.

Mae pawb ohonoch wedi dod i adnabod Now drwy ei berfformiadau gyda Hogia Llandegai dros gyfnod o 40 mlynedd, bron, a llawer ohonoch wedi darllen geiriau Now yn y llyfr am ei fywyd a hanes yr Hogia.

Roedd Now yn un o sylfaenwyr Hogia Llandegai - yn un o'r criw o wyth a gychwynnodd gr诺p yn yr ardal am y tro cyntaf yn 1957, dan yr enw Criw Sgiffl Llandegai. Bu Now, ynghyd a Ron a Nev, yn aelodau parhaol o' r gr诺p drwy gyfnod y sgiffl, cyfnod y pedwarawd a chyfnod y triawd. Roedd gan bawb ei ddawn a'i gyfraniad arbennig wrth gwrs, ond mae'r hogiau i gyd yn cydnabod mai Now oedd calon y gr诺p. Now oedd yn gwneud Hogia Llandegai yn wahanol i unrhyw gr诺p arall.

Mae rhai ohonom wedi ei edmygu am ei feistrolaeth o' r organ geg, neu am ei chwibanu, neu am ei ddawn fel dynwaredwr. Bu hefyd ar adegau, yn troi ei law at y git芒r, drymiau, llwyau ac ati. Yn ddi-os, 'gwr yr aml-ddoniau' oedd Now, ond o'r holl ddoniau, y ddawn fwyaf a feddai oedd y ddawn brin honno - y gallu i wneud i bobl chwerthin. I chwerthin lond eu bol, ac yn aml iawn i chwerthin hyd at ddagrau! Ond nid dyn deud j么cs oedd Now. Yn hytrach, llwyddai i ddenu ymateb cynulleidfa drwy ei sylwadau digri byrfyfyr, neu drwy ei ystumiau neu ryw edrychiad doniol.

Yn aml doedd dim rhaid iddo ddweud dim byd i wneud i bobl chwerthin - roedd edrych ar ei wyneb yn ddigon!

Perfformiwr wrth reddf oedd Now - roedd yn ei elfen o flaen cynulleidfa ac wrth ei fodd yn clywed pobl yn chwerthin. Yn wir, byddai ymateb da gan gynulleidfa ar ddechrau noson yn ysbrydoli Now i fynd o nerth i nerth gan dynnu'r 'stops' allan i gyd fel yr ai'r noson yn ei blaen.

Er i ni weld perfformiadau clodwiw gan Now a'r Hogia ar y teledu, mae'n deg dweud na lwyddodd y camer芒u rhywsut i ddal holl ddoniolwch naturiol Now ar ei orau glas. A hynny, mae'n debyg, am mai digrifwr naturiol oedd Now, a'i hiwmor yn rhywbeth nad oedd yn bosib bob amser ei rihyrsio ar gyfer rhaglen deledu. Roedd rhai o' r pethau a wnai mewn ambell i noson fyw yn bethau hollol fyrfyfyr, yn ymateb i amgylchiadau'r funud ar y noson. Y broblem oedd nad oedd Nev a Ron yn gwybod beth oedd o am ei wneud nesaf!

Meddyliwch sawl gwaith y bu Nev a Ron yn ceisio cyflwyno'r eitem nesaf ar y rhaglen, a'r gynulleidfa' n rowlio chwerthin lle nad oedd chwerthin i fod, a hynny oherwydd bod Now yn gwneud rhywbeth digrif y tu 么l iddyn nhw! Er enghraifft, dod i'r llwyfan ar gefn treisicl bychan oedd yn digwydd bod wrth law yn y neuadd. Dro arall, yn dringo hanner ffordd i fyny ffr芒m ymarfer corff oedd yn digwydd bod ar wal gefn y llwyfan gan fygwth swingio fel Tarsan ar un o'r rhaffau. Yn rhywle arall, tynnu ei g么t a cheisio'i hongian ar fachyn dychmygol ar wal gefn y llwyfan - a honno wrth gwrs yn disgyn i'r llawr bob tro. Wyddech chi ddim pa bryd y penderfynai ddod i'r llwyfan gan fras-ddynwared Graucho Marx, wedi plygu'n ei ddau ddwbl, gydag un llaw y tu 么l i'w gefn a'r llall yn dal ei organ geg fel sig芒r!

A beth am ddefaid William Morgan? Doedd Now byth yn ei gwneud hi' n union yr un fath o gyngerdd i gyngerdd! Fyddai'r Hogia byth yn siwr sut gi fyddai ganddo ar un noson, p'un a fyddai ganddo gi bach pren ar olwynion ynteu ci go iawn, a hwnnw efallai wedi ei gipio oddi ar y stryd yn Stiniog, neu ble bynnag roedd yr Hogia yn digwydd perfformio ar y pryd. A dyna i chi'r noson honno yn y Majestic, Caernarfon yn 1979 pan ddaeth ag oen llywaeth drwy ganol y gynulleidfa i'r llwyfan!

Dyna i chi ryw ychydig enghreifftiau yn unig. Mae'n si诺r fod gennych chithau, bob un ohonoch, lawer o atgofion melys amdano'n 'mynd trwy'i betha' ac wedi cael llawer o HWYL wrth ei wylio hefyd!

A dyna oedd gair mawr Now - 'HWYL'. Roedd yn hollbwysig gan Now fod cynulleidfa yn cael HWYL. Ac onid ydi o'n wir i ddweud fod Now ei hunan yn ymgorfforiad o'r gair HWYL? Y ffaith ydyw, fel y gwyddom i gyd, mai nid dim ond dyn doniol ar lwyfan oedd Now, ond CYMERIAD (neu CYM脢R, fel y byddwn yn dweud yn yr ardal hon). Roedd yn gymeriad digri yn ei fywyd oddi ar y llwyfan hefyd, fel y tystia llawer ohonoch. Pan oedd Now yn galw heibio'ch cartref fe fyddai'n llenwi'r tŷ^ gyda'i fwrlwm a'i hiwmor ffraeth a'i dynnu coes didrugaredd - a phawb wrth eu bodd!

Roedd ei bersonoliaeth gyfeillgar, agos-atoch-chi, gweld-pawb-ymhobman, yn ennill calonnau pobl o bob oed. Does ryfedd fod ganddo gymaint o ffrindiau!

Er nad oedd, wrth reswm, yn gallu bod yn ei hwyliau gorau bob amser (fel pawbohonom), gallwn fod yn sicr ei fod, dros y blynyddoedd, wedi dod a llawenydd i fywydau miloedd o bobl o bob oed yng Nghymru a thu hwnt.

Medd Ryan yn ei gan adnabyddus - 'o ble gest ti'r ddawn o dorri calonnau?' Y ddawn i godi calonnau oedd dawn Now!

A dyna, heb amheuaeth oedd ei gymwynas a'i gyfraniad mawr i ni fel cenedl - gwneud inni chwerthin. Diolch amdano - bydd Cymru a'r byd adloniant yn llawer iawn tlotach hebddo.

Ceir rhagor o deyrngedau i Owen Glyn Jones yn rhifyn Medi 2004 o Llais Ogwan.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy