成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llais Ogwan
Siop Cigydd Taith yn 么l i'r pumdegau
Tachwedd 2006
(yng nghwmni Andr茅 Lomozik a Dafydd Gwilym Jones)
Dyma ni yn y chweched flwyddyn o'r unfed ganrif ar hugain, ac yn ddiweddar cefais daith ddiddorol yn 么l i'r pumdegau a'r ganrif ddiwethaf
yng nghwmni Dafydd Gwilym Jones, Ffordd Pant Glas.

Magwyd Dafydd yn y rhan isaf a Fethesda, ac roedd ein taith yn dechrau yng ngwaelod y stryd fawr ger capel Bethania. Rhes Penrhyn i fod yn gywir.

Roedd Dafydd wedi dweud wrthyf nad oedd y trigolion a oedd yn byw yn y rhan isaf o'r pentref angen dod i fyny'r stryd fawr ymhellach na'r feddygfa bresennol yn aml, gan fod cymaint o siopa yn gwerthu nwyddau yn y rhan isaf a'r stryd fawr, ond er hynny roeddem am deithio i fyny cyn belled 芒 Gorffwysfan. Felly dyma gychwyn ar ein taith i weld beth oedd i'w gael ar hyd y ffordd i fyny'r stryd.

Siop Eryri House oedd y gyntaf, gyda Willy Owen yn gwerthu nwyddau haearn (ironmonger). Mrs J Parry oedd perchennog yr adeilad. Yna roedd Min Llyn, t欧 Deiniol Griffith, y trydydd ar ein taith oedd Gwynfryn lle'r oedd Telynores Gwyngyll yn byw.

Siop Dulcie Wyn Williams oedd y nesaf. Roedd y siop yma yn gwerthu bwyd, perchennog yr adeilad oedd Mrs Evans (Stone Mason). Tan Lan oedd y siop drws nesaf gyda Mike Hughes yn gwerthu dillad dynion ac yn dilyn roedd siop Parry Chemist, yna Bodffordd House. Thomas Charles Pritchard a'i frawd Johnny oedd yn byw yma, gwerthwyr glo oeddynt, yna daeth mam Mr Vic Ashworth i'w chadw fel siop bapur newydd.

Imperial Cafe oedd nesaf. Muriel, modryb Heulwen Bright oedd yn cadw'r caffi. Drws nesaf roedd Castle House, Swyddfa Moduron Porffor, ac yn gwerthu'r petha' da a bwyd yn ogystal. Adeilad brics coch mawr oedd nesaf ar waelod Allt Caffi. Roedd yna glwb, llyfrgell, siop da-da a chaffi yn yr adeilad yma a adnabyddid fel yr Aelwyd. Mr Price Jones oedd yn gofalu am y lle. Rhes y Graig oedd yn dilyn i fyny ac wedyn yr Hen Neuadd - dyma lle roedd Byddin yr Iachawdwriaeth yn cyfarfod!

T欧 o'r enw T诺r oedd nesaf, ac yna pedwar o dai eraill. Yr adeilad nesaf oedd swyddfa WH Parry, athrawes yn y Cefnfaes (hyd at y chwedegau), a dyma lle y byddai'r tenantiaid yn mynd i dalu rhent. Siop Briggs wedyn yn gwerthu esgidiau (dyma lle bu Llyfrgell Bethesda ar 么l bod yn yr Aelwyd, cyn symud i'w leoliad presennol).

Yr ochr uchaf i Allt Briggs roedd siop arall ganddynt yn gwerthu dillad merched a phlant. Perchennog yr adeilad oedd Harold Hughes (wedyn ei fab J Kenneth Hughes, adeiladydd ac ymgymerwr angladdau).

Erbyn hyn roeddem wedi cyrraedd Rhes Buddug/Victoria, a meddygfa Dr Rees Pritchard oedd yr adeilad cyntaf wrth fynd yn ein blaenau i fyny'r ffordd fawr! Roedd Dr Pritchard yn byw yn y t欧 drws nesaf i'r feddygfa.

Wedyn roedd siop Rose Pritchard lle bu peis enwog yn cael eu cynhyrchu.

Siop cigydd Ashton Price Davies oedd y siop nesaf ac yna cartref Dr Idwal Griffith. Siop Sarah (Lock) Roberts oedd wedyn ac roedd pob math o bethau yn cael eu gwerthu yma - anrhegion a 'fireworks' ar gyfer noson t芒n gwyllt.

Popty Treflan oedd nesaf, yn cael ei gadw gan Johnny Jones, ac yna fferyllfa Emrys Davies; siop 'da-da neis' wedyn, ac yna siop William Edwin Jones (mae'r siop yma'n dal yn nwylo'r teulu), ac i ddod at ddiwedd y rhes roedd siop crydd ac esgidiau Jones (sydd yn y llun uchod) a siop Gwen Ty'n L么n (Jones) yn gwerthu dillad plant.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy