成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llais Ogwan
Rheolir Gwarchodfa Natur y Spinnies, Aberogewn gan wirfoddolwyr a staff Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru Antur Aberogwen
Tachwedd 2007
Daeth naturiaethwyr o bob oedran at ei gilydd er mwyn cyfrif anifeiliaid ac adar yng Ngwarchodfa Natur Aberogwen.

Roedd y digwyddiad wedi ei drefnu gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru fel rhan o Wythnos Wyllt y 成人快手.

Y bwriad oedd dathlu'r hydref drwy roi cyfle i bobl leol helpu i gofnodi'r cyfoeth o adar, anifeiliaid a phlanhigion sydd i'w gweld ar y safle.

Roedd yna 33 par o lygaid a chlustiau, yn ceisio adnabod cymaint o wahanol greaduriaid ag y bo modd yng nghynefinoedd y warchodfa, sy'n cynnwys coedwig, morlyn a fflatiau llaid Traeth Lafan.

"Cawsom ddiwmod arbennig", meddai Ben Stammers, Swyddog Bywyd Gwyllt a Phobl efo Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru. "Mi roeddwn yn lwcus efo'r tywydd ac, ar 么l gwaith caled gan bob un 'ditectif natur', gwnaethom gyrraedd cyfanswm o 113 rhywogaeth.

"Rhaid o'r uchafbwyntiau oedd Hebog Tramor yn hedfan drosodd, Creyr Bach wrthi'n pysgota yn y lagwn, Cnocell Goed Fraith ar y cnau o flaen y guddfan, a ffrwythau coch y Winwydden yn y gwrychoedd.

"Fe wnaeth rhai o'r plant, a'u llygaid yn nes at y ddaear, yn arbennig o dda efo'r anifeiliaid llai - crancod a chregyn ar y traeth, a phryfaid hwyr fel y Fuwch Goch Gota yn y coed.

"Mae 113 yn gampus - ac mae gennym ni darged am y flwyddyn nesaf. Mae safle Aberogwen yn safle mor arbennig - dwi'n gweld rhywbeth newydd bob tro dwi'n ymweld - felly pwy a wyr faint o wahanol greaduriaid sydd yn dal yna i'w cyfrif y tro nesaf."

Bwriad Ben yw codi ymwybyddiaeth am y safle, sydd wedi cael ei gynnwys mewn sawl rhaglen natur gan y 成人快手 yn ddiweddar fel un o'r safleoedd gorau am wylio adar yng Nghymru.

Meddai Ben, "Dwi'n gobeithio y byddwn ni fel cymunedau ardal Bangor a Dyffryn Ogwen yn dechrau sylwi ar gymaint o drysorau sydd ar gael yn ein plith mae 'na fywyd gwyllt arbennig i'w weld yn Aberogwen trwy'r flwyddyn, ac mae'n agored i'r cyhoedd bob dydd, yn rhad ac am ddim!"

Am fwy o fanylion, cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru 376 Stryd Fawr, Bangor, Gwynedd, LL57 lYE (01248) 351541
nwwt@cix.co.uk

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy