Ar Ddydd G诺yl Dewi yr agorwyd busnes newydd Becws Pesda, ac mae'r enw yn dweud beth yw'r cynnyrch.
Ond mae'r busnes yn fwy na becws syml, gan fod iddo fwriad ychwanegol i'r un arferol o wneud elw.
Mae Becws Pesda wedi ei sefydlu er mwyn ceisio cael y rhai fu'n ddi-waith am gyfnod hir yn 么l i waith.
Bydd pob un sy'n gweithio yn y becws yn dilyn hyfforddiant am 16 wythnos, ac yn datblygu sgiliau fydd o gymorth iddynt gael dychwelyd i'r gweithle.
Bellach mae pymtheg yn cael eu hyfforddi yn y becws.
Sefydlwyd y fenter gan NACRO, ac fe'i hariennir gan Gyngor Gwirfoddol Cymru a'r Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd.
Mae'r cynllun wedi cychwyn ers Gorffennaf, a hynny yn y Clwb Rygbi, ond bellach mae ganddynt fecws gweithredol ar y Stryd Fawr.
Yn y llun gwelwn y Cynghorydd Ann Williams, gyda'r gweithwyr ddiwrnod yr agoriad swyddogol.
"Rydw i'n dymuno'r gorau i'r fenter," meddai'r Cynghorydd Williams.
"Mae hwn yn gynllun cyffrous, ac yn un hynod o bwysig i roi cymorth i bobl gael yn 么l i'r gweithle.
"Mae o hefyd yn n gyfraniad gweledol a gweithredol i Stryd Fawr Bethesda."
Mae'r becws ar agor 10.30 i 3.30,o ddydd Llun i ddydd Gwener. Galwch draw!
|