成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llais Ogwan
Rhys Bowen Harries O Istan' Bull i Istanbul
Hydref 2007
Mae Rhys Bowen Harries o Pant y Gwair, Llanllechid yn reidio beic yng nghwmni dau gyfaill o Lundain i Istanbul, pellter o tua 2,500 o filltiroedd!
Dechreuodd y daith ar y 1af o Fedi ac maent ar hyn o bryd (Medi 30ain) wedi cyrraedd y ffin rhwng Awstria a Hwngari.

Mae eu taith wedi dilyn yr afon Rhein drwy'r Iseldiroedd a'r Almaen cyn croesi i ddilyn trywydd yr afon Ddonwy (Danube) a fydd yn mynd a nhw drwy Awstria, Hwngari, Serbia, Rwmania cyn diweddu yn Nhwrci.

Maent wedi cael ambell antur yn barod ac yn cael amser braf er fod beicio rhwng 80 a 100 milltir rhai dyddiau yn waith caled!

Mae Rhys hefyd yn hiraethu am ei deulu a'i ffrindiau yn y Dyffryn ar adegau.

Hoffai Rhys bwysleisio mai prif nod y daith yw casglu arian tuag at Cymorth Cristnogol.

Os hoffech ei noddi y ffordd orau yw mynd ar y wefan lle cewch nid yn unig gyfrannu at yr achos ond lie cewch holl hanes y daith a 'blog' swyddogol.

Os ydych ar 'facebook' gallwch weld 'blog' personal Rhys yn y grwp 'London to Istanbul'.

Os nad oes gennych gyfrifiadur ond yn dal yn awyddus i gyfrannu at ymdrech yr hogia mae croeso i chwi anfon unrhyw gyfraniad at Wyn neu Gwen, Pant y Gwair, Pont y Pandy, Bangor, Gwynedd, LL57 3AX lie bydd eich cyfraniad, eich enw a'ch neges yn cael ei drosglwyddo i'r wefan sydd wedi hel bron i 拢2,500 yn barod.


[an error occurred while processing this directive] 0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy