Bu cerddoriaeth yn rhan o fywyd Patrick erioed ond yn ei eiriau ef ei dydy o ddim (nac isio bod) yn 'nyrd cerddorol'.
Hynny ydy, does ganddo fo ddim i ddweud wrth rheini sy'n cael eu darganfod yn 'proteges' cerddorol yn ddwy oed ac yn mynd i ryw goleg neu 'conservatoire bonslyd' yn Llundain pan maen nhw'n wyth oed.
Isio bod yn hogyn normal o Besda mae Patrick ac isio gweld cerddoriaeth draddodiadol Gymraeg yn caeI ei chymryd mwy o ddifri.
Rai blynyddoedd yn 么l, roedd Patrick yn chwarae'r ffidil yn Eisteddfod yr Urdd a dyma fo'n penderfynu chwarae set o jigs Cymreig ar ddiwedd ei berfformiad.
Roedd y perfformiad hwnnw wedi plesio'r beirniad er iddo ddweud yn ei feirniadaeth y gallai Patrick fod wedi talu mwy o sylw i'r ddeinameg ac i'r tiwnio a'i sylw i gloi oedd 'Callia'!
Er hynny, yn 么l Patrick, mae a rywbeth arbennig iawn sy'n diffinio cerddoriaeth Gymreig iddo fo, oherwydd mai hanner Sais a hanner Gwyddel yw o ran tras mae'n teimlo ei fod o'n Gymro 110% ym mer ei esgyrn.
Mae hynny'n rhoi rhyw deimlad go 'sbeshial' i Patrick ac 'i'r nifer fach o bobl sy'n gallu gwerthfawrogi arbenigrwydd yr alawon traddodiadol Cymreig ar hyn o bryd.'
Pan oedd o'n ddisgybl ym Mlwyddyn 3 Ysgol Llanllechid y dechreuodd y diddordeb mewn chwarae'r ffidil, ac i Glenys Jones ei athrawes ffidil ar y pryd, y mae llawer o'r diolch am feithrin y diddordeb ynddo.
Roedd o a dau o'i ffrindiau yn mwynhau mynd i 'falu awyr ac i osgoi gwersi arferol a dysgu ychydig bach o ffidil yr un pryd'.
Dechreuodd y diddordeb yn yr alawon traddodiadol mewn gweithdy dan nawdd COTC (Cymdeithas Offerynnau traddodiadol Cymru) ond a elwir bellach yn CLERA ac sy'n gymdeithas lewyrchus o dan adain Arfon Gwilym erbyn hyn.
Er ei fod yn amheus o'r peth i gychwyn, pan aeth Patrick i lawr i Neuadd JMJ ym Mangor a chael dysgu ei alaw gyntaf 'Pwt ar y Bys' efo Huw Roberts, dechreuodd gael blas ar y peth.
Rhoddodd Patrick ei berfformiad cyntaf yn Ffair Hydref Ysgol Llanllechid lle bu'n trio cystadlu efo s诺n anferthol Celt.
Wedyn bu'n perfformio yng Ng诺yl Glynllifon yng nghanol y glaw ac yna i Ferched y Wawr, Nant Conwy ac yng Nghlwb Rygbi Bethesda.
Uchafbwynt i Patrick yn y cyfnod hwn oedd cael mynd efo Dawnswyr Nantgarw i Mallorca yng nghystadleuaeth Dawnsio Gwerin y Byd ac yntau'n cyfeilio iddynt.
Enillasant y drydedd wobr yn y fan honno a bu raid trefnu teithiau eraill yn syth.
Yn Mallorca bu bron iddo gwrdd 芒 damwain gan iddo anghofio pa ochr i'r ffordd y teithiai'r traffig a bu ond y dim iddo gael ei daro i lawr gan un o'r 'mopeds' hynny sy' mor gyffredin ar y cyfandir, ac yntau dan ddylanwad llesmeiriol y perfformiad clodwiw a gwres yr haul, heb s么n am y ffaith fod y ddraig goch yn chwyrlio o gylch ei ben.
I Patrick, uchafbwynt ei yrfa gerddorol hyd yma yw honno ddigwyddodd yn haf 2005 pan ymwelodd 芒'r Wyl Ryng Geltaidd yn Lorient.
Roedd y profiad hwnnw'n 'anhygoel' yn 么l Patrick. Bydd y profiad o gael cyd-gerdded gyda gr诺p mawr o bobl yn canu pibau a Gwyddelod yn yfed Guinness ac yn tapddawnsio i lawr y stryd yn aros yn ei gof am byth.
Yn ychwanegol at hynny, cafodd slot o ugain munud ar Iwyfan un o brif theatrau'r ddinas gyda'i gyfaill Caradog.
Mae Patrick yn cydnabod na fyddai ei lwyddiant wedi bod yn bosib heb help pobl fel Huw Bach, Stephen Rees, Arfon Gwilym, Jeff Manceinion a Chriw y Nelson.
Dywed ei fod o wedi bod yn ddigon lwcus i ennill y wobr gyntaf yn y Gystadleuaeth Ffidil Geltaidd Genedlaethol eto eleni ac mae'n falch o weld bod mwy o lawer yno o bobl ifanc dan 16 oed yn cystadlu erbyn hyn.
Mae chwarae'r ffidil yn 'gallu bod yn c诺l' meddai. Mae'n gredwr cryf mewn mynd a'r gerddoriaeth i'r bobl a'i wneud yn rhywbeth mwy 'credadwy' fel y mae yn yr Iwerddon.
Dymunwn bob hwyl i Patrick yn ei yrfa gerddorol a byddwn yn edrych ymlaen at weld ei enw ar frig y siartiau cerddorol Cymreig.