Perchennog siop ac Albert ar y Stryd Fawr ydy Sunnie Sutton sy'n byw ym Mraichmelyn ers 1997 gyda'i g诺r Matthew, a'u mab 2 oed, Oscar.Mae ac albert ar agor ers dydd G诺yl Dewi eleni ac mae Sunnie wrth ei bodd gyda'r ymateb lleol i'r hyn mae'n ei werthu. Mae'r siop yn drysorfa o bob math o grefftau a nwyddau, yn cynnwys crefftau lleol a chrefftau o Ghana, Zimbabwe ac Indonesia. Ymysg y cynnyrch lleol sydd ar werth mae crochenwaith gan Rick Midgley o Gerlan.
"Mae pob dim sydd yn y siop yn nwyddau Masnach Deg, neu yn nwyddau gan gynhyrchwyr sydd 芒 pholisi masnachu moesegol," meddai Sunnie.
Mae mwy a mwy o nwyddau erbyn hyn yn arddangos y label Masnach Deg gan gynnwys coffi, te, ffrwythau, siocled, m锚l, gwin a siwgwr. Mae'r label yn sicrhau'r prynwr fod y cynhyrchydd wedi derbyn pris teg am ei gynnyrch sy'n ei alluogi i ddatblygu ei fusnes yn ei gymuned, heb fod yn orddibynnol ar gwmn茂au mawr.
Ac yn awr mae Sunnie yn awyddus iawn i weld Bethesda yn datblygu i fod yn dref Masnach Deg. Golyga hyn y byddai sawl siop a chaffi, yn ymrwymo i werthu nwyddau Masnach Deg. Mae'r nifer a fyddai'n gorfod ymrwymo i wneud hyn yn ddibynnol ar faint y boblogaeth.
"Mi fyddai'n wych petaem ni'n gallu gweithio gyda'n gilydd i gyrraedd y nod yma," meddai Sunnie.
"Fe all gymryd blynyddoedd, wrth gwrs, ond mi fyddai'n bosib i'w wneud e."
"Y peth cyntaf i'w wneud yw sefydlu pwyllgor, ac yna mynd ati i gydweithio oddi fewn y gymuned. Mi fyddai'n arbennig o wych gweld yr ysgolion lleol yn dod yn rhan o'r ymgyrch, a chwmn茂au lleol."
Os oes unrhyw un 芒 diddordeb bod yn rhan o'r ymgyrch, mae croeso i chi gysylltu 芒 Sunnie trwy alw yn y Siop yn 55 Stryd Fawr, Bethesda neu drwy ffonio 01248 602730.
Yn y cyfamser, mae Sunnie yn brysur yn paratoi ar gyfer y Nadolig. Mae stoc newydd arbennig ganddi yn y siop, yn cynnwys cardiau ac addurniadau, a danteithion difyr ar gyfer llenwi hosanau'r Nadolig.
Ac mae wedi trefnu dwy noson i'r rhai ohonoch sy'n gweithio ac sy'n ei chael hi'n anodd cael amser i fynd i siopa yn ystod yr wythnos.
Bydd ac albert ar agor yn hwyr ar nos Fercher, 30 Tachwedd, rhwng 6.00 a 9.00 ac eto ar yr un amser ar nos Fercher, 14 Rhagfyr. Mi fydd hi'n cynnig gwin poeth a mins peis i'w chwsmeriaid ar y nosweithiau hynny. Mae'r siop ar agor fel arfer rhwng 10 y bore a 6 yr hwyr, ac mae'n cynnig gostyngiad o 10% i bensiynwyr.