Drwy guro Machynlleth i ffwrdd o 56 pwynt i 17 sicrhaodd Bethesda
y pwyntiau oedd yn golygu na allai'r un t卯m arall yn yr adran ennill y bencampwriaeth.
Mae'r tymor wedi bod yn un hynod lwyddiannus - heb golli yr un gem i
ffwrdd o D么l Ddafydd, mynd drwodd i 8 olaf Bowlen SWALEC a dim ond colli un gem gynghrair (o 1 pwynt yn unig).
Yr hyn sydd wedi bod yn galonogol y tymor yma ydi safon y rygbi sydd wedi cael ei chwarae.
Daeth y chwaraewyr at ei gilydd fel un y
tymor yma - hogia lleol i gyd a phawb yn credu bod y t卯m yn haeddu chwarae ar lefel uwch.
Mae'r arweiniad ar y cae gan y capten, Paul Thomas wedi yn allweddol i lwyddiant y tymor.
Ar 么l y siom o golli o 1 pwynt yn erbyn y Bala sylweddolodd y chwaraewyr mai gem t卯m ydi rygbi ac mae'r cydchwaraewyr wedi hynny wedi bod yn wefreiddiol ar brydiau.
Mae diolch yn ddyledus i'r hyfforddwr WiIl Sandison, cyn-
chwaraewr i'r clwb, am osod
sylfaen gadarn i'r blaenwyr a Keith Withers, cyn-chwaraewr arall, am roi trefn ar yr olwyr.
Da iawn chi hogia' Pesda a phob hwyl y tymor nesaf. (Llais Ogwan)
|