Yn 么l yr hyn a ddealla Llais Ogwan mae difrod tebyg yn digwydd yn Ysgol Llanllechid ac mae'r holl fater yn nwylo'r heddlu. Peth trist yw gorfod nodi bod achosion fel hyn ar gynnydd ymhob rhan o'n gwlad ac mae Ysgol Dyffryn Ogwen yn y broses o wario ar osod camer芒u diogelwch ar hyd ac ar led yr ysgol er mwyn ceisio atal y fath ddifrod difeddwl ac anghyfrifol. Fel y dywedodd Mr Alun Llwyd, prifathro'r ysgol wrth Llais Ogwan, "Mae'r difrod hwn yn golygu ein bod yn gorfod gwario ar bethau hollol ddi-fudd er mwyn gwarchod adeiladau'r ysgol. Gyda'r arian rydym yn ei wario ar y camer芒u, gallai'r ysgol brynu llyfrau a chyfrifiaduron i'r plant ac mae digwyddiadau cyson fel hyn yn wastraff llwyr ar gyllid ac adnoddau'r ysgol." Cyfrifoldeb Felly, mae gan bawb, yn rieni, trigolion a threthdalwyr, gyfrifoldeb i geisio atal anfadwaith o'r fath. Wedi'r cyfan, ein plant ni ein hunain sy'n dioddef oherwydd gweithgareddau yr ychydig sy'n mynnu malurio popeth o fewn eu cyrraedd. Yn anffodus, mae'r ystadegau'n dangos mai plant oed ysgol sy'n bennaf gyfrifol am y math hwn o falurio, ac os mai plant sy'n gyfrifol am y difrod y cyfeiriwyd ato uchod, oni ddylai pob rhiant holi eu plant ynghylch eu gweithgareddau a lle maen nhw'n mynd pan maen nhw allan? Tresmasu Mater arall sy'n peri gofid yw'r tresmasu sy'n digwydd yn ystod oriau ysgol a thu allan i'r oriau hynny. Dywedodd y prifathro nad oes hawl cyfreithiol gan unrhyw un i ddefnyddio tir yr ysgol fel llwybr i fyrhau taith o un lle i'r llall. Bu mewn cysylltiad a'r Cyngor Sir a dywedwyd wrtho nad oes llwybr cyhoeddus wedi ei farcio ar y map sy'n nodi terfynau tir yr ysgol, ac os oes rhywrai'n dweud eu bod wedi defnyddio'r tir fel man cerdded ers cenedlaethau, yna, dim ond trwy 'rym arferiad' y gwnaed hynny. Yn ddiweddar iawn bu i rywun oedd yn tresmasu daflu carreg i mewn i ddosbarth yn llawn o blant ac felly, ar sail diogelwch yn unig, mae'r prifathro yn gofyn i'r cyhoedd gadw draw o dir yr ysgol os nad ydynt yn ymweld ar fusnes swyddogol yn ymwneud a'r ysgol neu ag addysg eu plant.
|