成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llais Ogwan
Coed Gwobr amgylcheddol
Hydref 2006
Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig yn gwobrwyo Gr诺p Lleol o Ddyffryn Ogwen.
Yn ystod mis Medi, cyflwynwyd Gwobr Cymru Wledig i Coetir Mynydd, y gr诺p cymunedol o Fynydd Llandygai.
Gwobr gan Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig ydoedd fel cydnabyddiaeth o waith y gr诺p yn ardal Parc yr Ocar.

Cyflwynir Gwobrau Cymru Wledig, sydd bellach yn eu degfed blwyddyn o fodolaeth ac wedi'u noddi gan Swyddfa'r Post, mewn cydnabyddiaeth o waith sydd yn gwella'r amgylchedd ac yn rhoi budd i'r gymuned leol.

Er mwyn dathlu'r llwyddiant, ymunodd dau ar bymtheg o gangen Sir Gaernarfon YDCW a'r un nifer o aelodau Coetir Mynydd a'u cyfeillion (a sawl ci!) fore Sul, 3 Medi, yn hen weithdai'r chwarel yn Felin Fawr i ddechrau taith gerdded trwy goedwig Parc yr Ocar.

Sefydlwyd y gr诺p yn 2000 dan arweiniad y Cyng. Gwen Griffith, mewn ymateb i fwriad y perchnogion i leihau lefel yr argae - a adeiladwyd yng nghanol yr 19eg ganrif er mwyn cyflenwi ynni i weithdai'r chwarel - oherwydd y gred ar y pryd ei fod mewn perygl o ddymchwel. Cymerodd y gr诺p gyfrifoldeb am yr argae, y llyn a'r goedwig sydd yn llenwi'r dyffryn cyfagos. Ers ei sefydlu, mae'r gr诺p wedi cadarnhau sefydlogrwydd yr argae, wedi clirio'r llyn a, gyda chymorth Cyd Coed, wedi rhoi'r goedwig dan reolaeth sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd. Mae llwybrau wedi eu creu at ddefnydd y cyhoedd ac mae waliau cerrig wedi eu hail adeiladu.

Yn ystod y daith gerdded bu nifer o'r rhai a fu'n ymwneud a'r gwaith amgylcheddol yn siarad am y cynllun. Siaradodd Mark Goddard, rheolwr prosiect Coetir Mynydd, am hanes yr argae; disgrifiodd Hefin Huws, oedd yn gyfrifol am y gwaith adeiladu waliau cerrig sych, yr hyfforddiant a'r swyddi y mae'r cynllun wedi ei ddarparu ac amlinellodd Bryn Williams y cynlluniau sydd yn eu lle i greu cynllun trydan d诺r yn yr argae (roedd y d诺r yn arddangos ei gryfder yn effeithiol iawn y prynhawn hwnnw!).

Cyflwynwyd y wobr, plac llechen wedi ei lungerfio, i Einir Frodsham, Cadeirydd Coetir Mynydd gan Michael Griffiths, Llywydd Cenedlaethol YDCW a chyn-gadeirydd Cyngor Cefn Gwlad Cymru.

Dywedodd Michael Griffiths ei fod yn falch iawn o fod yn cyflwyno'r wobr i gynllun mor haeddiannol sy'n arddangos mor dda beth all cymuned leol ei wneud dros ei darn o gefn gwlad.

Roedd ganddo ddiddordeb arbennig mewn clywed am y cynlluniau 'ynni gwyrdd' gan fod YDCW yn gefnogol i ehangu'r ystod o ffynonellau ynni adnewyddol. Mewn ymateb i hyn, dywedodd Einir Frodsham ei bod hi, oedd wedi ei magu ger y llyn a'r goedwig, yn falch iawn i fod ymglymedig 芒 Coetir Mynydd sy'n y goedwig i'r cyflwr yr oedd hi yn ei gofio o'i phlentyndod.

Ar 么l y seremoni fechan symudodd yr ymgynulliad ymlaen trwy'r coed i'r Neuadd Goffa ym Mynydd Llandygai ble rhoddwyd cyflwyniad pellach o anerchiad y gwobrwyo i'r Cyng. Griffith, nad oedd yn gallu mynd ar y daith gerdded. Diolchwyd i Michael Griffiths ac YDCW am y wobr oedd yn cael ei gwerthfawrogi'n fawr ac a fyddai'n cael ei harddangos yn y pentref.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy