Mae Carwyn Owen, 34 oed, yn cadw fferm laeth yn Aberogwen. Cafodd ei eni ar y fferm a mynychodd Ysgol Tryfan cyn treulio blwyddyn yng Nglynllifon. Wedi hynny cymerodd yr awenau ar y fferm. Mae ganddo 110 o fuchod godro a 130 o stoc ifanc.
Mae'n briod 芒 Rhian ers 1999 ac mae ganddynt dri o blant: Llio (6) a Gwion (4) sy'n mynychu Ysgol Llanllechid, a Gethin (2).
Maent newydd gychwyn busnes 'livery', sef gwasanaeth cadw ceffylau i bobl, ac mae wedi cychwyn yn addawol iawn.
Beth fyddwch yn mwynhau ei wneud yn eich amser hamdden?
Crwydro'r caeau wrth fynd trwy'r stoc. Rwyf hefyd yn mwynhau mynd allan am bryd o fwyd.
Oes gennych hoff le yng Nghymru? Traeth Llanddwyn - bod yno fel bod ar eich gwyliau er mai dim ond tafliad carreg i ffwrdd ydyw.
Enwch eich hoff le y tu allan i Gymru. Prag - wedi bod yno ar wyliau byr efo Rhian - tref hudol a bythgofiadwy.
Pwy yw eich hoff actor neu actores Gymraeg?
Tudur Owen - yn enwedig pan mae'n actio rhan y plismon hoyw.
Pwy yw eich hoff berfformiwr cerddorol neu gr诺p o Gymru?
Cerys Mathews a Catatonia - wedi eu gweld mewn cyngerdd yng Nghaerdydd.
Beth yw eich hoff raglen Gymraeg ar S4C? Cefn Gwlad - yn enwedig pan fo cymeriadau lleol ar y rhaglen.
Beth yw eich hoff fwyd?
Bwyd m么r - mae gan ein ffrindiau gwch hel cregyn gleision, a byddwn yn cael gwahoddiad yno am swper a chael cimwch, cregyn gleision a 'King Prawns'. Hollol ffres - bendigedig!
Oes gennych arwr neu arwres? Dad - er i mi ei golli'n ifanc, rwy'n dal i'w edmygu'n fawr.
Beth sy'n eich gwneud yn hapus?
Fy nheulu - a gweld y plant yn tyfu. Eu geiriau cyntaf oedd Mam, Dad a John Deer!! A chael troi'r gwartheg allan yn y gwanwyn ar 么l gaeaf hir.
Beth sy'n eich gwylltio'n gacwn?
Buwch yn rhoi cic amser godro, a'r holl amodau newydd gan yr Adran Amaeth yng Nghaernarfon.
|