Sylwer, mae'r orgraff a'r sillafu gwreiddiol wedi eu cadw
Dydd Iau Gorph. 9fed
DAETHOM yn ein holau yn fuan i gario ein lugage ir Steamer arall or enw "Fflinders" i fyned a ni i Tasmania ar draws y Bass Straits.
Am 2 or gloch yr oeddym i gyd ar ei bwrdd ac wrth fyned yn mlaen yr oeddym i gyd yn canu ac yn ffarwelio ar hen "Iberia" ac yn wir yr oeddwn yn teimlo fy hun yn ddigon rhyfedd i ffarwelio a hi, trwy y cwbl yr oedd wedi bod yn gartref clud i mi a phawb oedd ynddi am chwech wythnos i groesi 13 mil o f么r.
Yn yr hwyr buom ni yn cadw Concert yn y "Fflinders" ac fe gawsom 拢1-1-6 am ganu ynddo. Wel yn wir rhaid i mi ddweud ein bod yn cael gwell bwyd o lawer yn hon, nag oeddwn yn ei gael ar "Iberia".
Dydd Gwener Gorph. 10fed
Am 9 or gloch boreu heddyw daethom i George Town Tasmania. Ni chawsom ond haner awr yma i newid Steamer eto i fyned a ni i fynu yr afon ir "Jetti" hon ydyw y Station ddiweddaf gyda'r Steamers.
Yr oeddym yn cyraedd yma tua 11 or gloch, yma hefyd y maent yn dyfod ar llechi etc. or chwarael. Yr oedd amryw o'n cyfeillion wedi dyfod i lawr i'm cyfarfod, ac yn wir yr oeddwn yn methu gwybod beth a wnawn wrth eu clywed yn gweiddi arnom cyn ein bod wedi landio a phawb yn falch wrth weled eu gilydd yn fyw ac iach ar ol y fath daith y daethom drwyddi.
Roedd genym eto 11 milldir o waith cerdded i fynu ir chwarel, ar hyd y tram. Ond yr oedd y merched ar plant yn cael eu cario yn y tryciau a phawb arall oedd yn dewis. Ond cerdded a wnaeth llawer ohonom, a chawsom law bron ar hyd y ffordd.
Coed sydd yn lle yr haiarn fel rail ar ei hyd, ac y mae hi yn myned i fynu ac i lawr (yr un fath ag y mae y wlad yma, bryn a phant bob yn ail o hyd, a cheffyla sydd yn tynu y tryciau.)
Daethom i Bangor erbyn tua 3 or gloch ac yr oedd y bwydydd mewn dau foarding houses mawr yn ein disgwyl. Ac yn yr hwyr gwnaethant Concert mawr i ni ar Cymru ar Seison yn ei gadw, fel rhwng pob peth fe aeth y diwrnod heibio yn ddifyr.
Dydd Sadwrn Gorph. 11fed
Heddyw cefais ychydig o amser i weled y lle yma om hamgylch. Ond yn wir nid oes yma ddim ond coed yw weled ac y maent yn agos iawn ie gilydd nes y maent yn dallu pawb, a dywedir mai felly y maent drwy yr ynys yma i gyd.
Ac y maent yn goed uchel iawn, ond nid ydyw y rhan fwyaf o honynt yn da i ddim ond yw llosgi. Ac hefyd y mae yn
hawdd iawn colli y ffordd ynddynt.
Nid ydyw yn wlad wastad, ond bryn a phant bob yn ail ac yr wyf yn meddwl yn fwy felly na Chymru.
Dywedir fod yma dir ffrwythlon iawn ond tir claiog yw llawer ohono. Y mae yn ein hymyl ni yn Bangor yma ffermydd ardderchog ac y maent yn gofun arian mawr am danynt pan yn ei gwerthu. A byddaf yn meddwl fod yma rai lleoedd pur dda am ffarm, ond fod yn rhaid llafurio dipin ac felly y mae pob ffarmwr sydd yma wedi gwneud nes or diwedd y maent wedi talu yn ol am eu llafur
CHWAREL eto, y mae hon yn cael ei gweithio o dan y
ddaear gerrig gwaelion iawn sydd ynddi, o liw du goleu, ac yn llawn o sulphur, ac y mae pawb mor ddu yn dyfod i fynu or twll, a phe byddant yn dyfod o waith glo.
Hefyd y mae yma fyrddau llifio ac engines naddu yn cael eu gweithio trwy steam, ac yn wir y mae yn rhaid eu llifio oherwydd ni wnant bleru, ac ni wyr neb pa ffordd yw eu hyd ar ol iddynt ddyfod ir top a phan yn eu hollti bydd rhaid marcio y rhan fwyaf oi hamgylch.
Dyma fel y dywedodd Benjamin Thomas Tyn Twr (Ben Jerri) pan ddaeth yma a dechreu gweithio ynddi. Fod yn werth dyfod o Gymru yma yw gweled dyma y chwarel rhyfeddaf a welais i erioed). A dyna i chwi dipin am y chwarel eto.
Tai coed sydd yma ac y mae yma lawer iawn ohonynt, mae un stryd pur fawr yn cael ei henwi yn Welsh Town, a Chymru ydyw y lliosocaf sydd yn byw ynddi. Rhif y boblogaeth sydd yma ydyw tua 300.
Dyna ddiwedd ar ddyddiadur Hugh Thomas. Gobeithio eich bod wedi mwynhau ei daith o Fethesda i Tasmania gymaint ag y gwnes i wrth ei ddarllen am y tro cyntaf.
Ond nid dyma ddiwedd hanes Hugh Thomas. Rwyf wedi bod yn ffodus iawn cael cysylltiad 芒 Keven Bradley, Tasmania, trwy Mr John Pilling o Lanfairfechan.
Mae Keven wedi gwneud ymchwil i hanes y bobl a ymfudodd o'r ardal yma i weithio gyda'r 'Bangor Slate Quarry Company, Bangor, Tasmania' ac mae wedi bod mor garedig ag anfon mwy o wybodaeth i mi am Hugh Thomas a'r chwarel.
Nid oedd y chwarel yn llwyddianus iawn ac ymhen dwy flynedd roedd wedi cau. Gwasgarwyd y gweithwyr, rhai yn mynd i chwilio am waith mewn chwareli eraill yn Awstralia ac eraill yn mynd i weithio ar y rheilffyrdd.
Aeth Hugh i Lefroy i gloddio am aur. Yno priododd a merch o'r enw Priscilla Jane Andrew ar y 25ain 0 Ragfyr 1889 (diwrnod Nadolig). Yn 1890 symudodd y ddau i Melbourne.
Ganwyd pump o plant iddynt, Cecil a anwyd yn 1890; Melville 1892; Llewelyn 1894; ac efeilliaid Louisa May ac William John 1901. Bu William farw ar ei enedigaeth.
Ganwyd tri o blant i Cecil, a thri i Melville, un ferch i Llewelyn ond ni wyddom a gafodd Louisa blant. Bu Hugh Thomas farw yn y flwyddyn 1917 a'i wraig yn 1932.
Mae Hugh a Prisilla wedi eu claddu ym mynwent 'Old Cheltenham Cementary, Victoria'. Gweler y llun uchod o'r garreg fedd.