成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llais Ogwan
Afon ffrydlas yn llifo drwy wal y mynydd Arddangosfa haf arlunwyr lleol
28 Gorffennaf 2003
Mae Bethesda yn atynfa ac yn fagwrfa i arlunwyr. Cafodd Richard Cyril Ward ei eni a'i fagu yn Hen Barc.

Treuliodd flynyddoedd wedyn yn dysgu crochenwaith a phethau cysylltiol yn Ysgol Uwchradd Llangefni gan fyw yn Llangaffo, Ynys M么n. Wedi ymddeol dychwelodd i fyw ym Methesda o fewn tafliad carreg i'r lle y cafodd ei eni.

Un o'r pethau yr ydym yn falch ei fod wedi ail-afael ynddo wedi dychwelyd yw arlunio. Cynhelir Arddangosfa Flynyddol yr Haf yng Nghonwy bob blwyddyn. Eleni newidiwyd peth ar y drefn. Rhannwyd yr arddangosfa yn ddwy ran y tro hwn. Agorwyd Arddangosfa Aelodau'r Academi Frenhinol Gymreig, Gorffennaf 5 a bydd yn parhau tan Awst 10. Bydd yr ail ran o'r arddangosfa o waith artistiaid dethol ar fynd o Awst 16 hyd Medi 14.

Derbyniwyd tri llun gan R C Ward i'r arddangosfa hon. Llongyfarchwn ef yn fawr ar ei lwyddiant. Y mae Cyril Ward yn paentio rhai pethau penodol o'n cwmpas. Dau o'r tri llun a gafodd eu derbyn oedd - Twll defaid yn wal y mynydd, ac Afon Ffrydlas yn llifo drwy wal y mynydd. Wrth fynd heibio nid yw dwr rhedegog yn hawdd i'w baentio na gwneud cerrig yn fyw. Mae'n hawdd iawn cymryd waliau a chreigiau'n ganiataol heb sylwi ar eu gogoniant yn y cylch hwn. Ond y maent yn gymaint rhan o'r lle ag yw cloddiau yn Llyn neu wrychoedd ym Mrycheiniog.

Dywedodd Syr Kyffin Williams mewn cyswllt arall mai llygad y Cymro yw'r aelod mwyaf diog. Cymwynas fawr a ni feidrolion yw cael arlunydd i alw sylw at ogoniant m芒n bethau yn ein hamgylchfyd. Y mae Cyril Ward yn hoff iawn o baentio Giat Mochyn, Llidiardau, Llwybrau, Pileri a Phontydd. Daeth Keith Andrew i Sir F么n a phaentio pethau cyffredin iawn a'r amser hwnnw y gwelodd pobl Ynys M么n eu harbenigrwydd a'u hynodrwydd. Gall y lluniau hyn fod yn gymorth i ni i adnabod ein hamgylchfyd a'i werthfawrogi.

Ein gwerthfawrogiad mwyaf o luniau R C Ward fyddai mynd i weld yr Arddangosfa sydd ymlaen o Awst 16 i Medi 14. Mae'r Oriel ar agor 11-5 yn ddyddiol ag eithrio dydd Llun. (Dydd Sul 1-4.30)

John Owen


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy