成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llais Ogwan
Stryd Fawr Bethesda Argyfwng ein siop leol
Chwefror 2005
Yr ydym i gyd yn ymwybodol ers peth amser bod yna wir argyfwng yn ein cymunedau a'n pentrefi. Beth yw'r argyfwng hwn, medde chi?
Wel, dim llai nag argyfwng ein siopau bach lleol, y busnesau hynny sy'n gorfod brwydro'n ddyddiol i wneud bywoliaeth, y rhai hynny sy'n gorfod cystadlu'n ddi-baid yn erbyn yr archfarchnadoedd a'r siopau mawrion rhyngwladol sy'n brolio miliynau o elw pob blwyddyn.

Yn ogystal 芒'i phobl, a'i chymdeithasau a'i chapeli, yr hyn sy'n gwneud pentref yw ei stryd fawr. Heb y siopau hyn, tlodaidd a marwaidd iawn fyddai'r gymuned.

Roedd yna gyfweliad gan 诺r busnes o Fangor yn ddiweddar, ym mhapur bro ein cymdogion. Yn y cyfweliad, roedd y g诺r yn dweud yr hoffai weld cynghorwyr Bangor yn gwrthod rhagor o geisiadau adeiladu gan y siopau mawr. Yn ei d欧b ef, byddai hyn yn rhoi achubiaeth i'r siopau bach sydd ar stryd fawr Bangor.

Mae'r siopau mawrion yn tagu busnesau bach ac mae'r effaith i'w deimlo yma ym Methesda hefyd. Un disgrifiad o hyn yw'r effaith a elwir yn effaith y 'polo mint', sef clwstwr o siopau mawr prysur ar gyrion dinas a'r stryd fawr yn wag.

Yn y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, rydym wedi colli nifer o wasanaethau lleol ym Methesda. Yn gyntaf, fe roddodd un o gyflenwyr llefrith yr ardal y gorau i ddanfon llefrith at ddrws y t欧. Yna, bu cwtogi ar ddanfon papur newydd yn y bore i rai ardaloedd. Yn fuan wedi hynny, caewyd siop y cigydd ac yna'r becws ar y stryd fawr. Mae hyn oll yn golled enfawr i ni fel ardal ac yn gwneud bywyd yn anodd iawn i rai, megis yr henoed.

Mae'n hawdd cymryd y gwasanaethau hyn yn ganiataol ond pan fo'r gwasanaeth neu'r busnes yn dod i ben mae'r golled yn glec i'r ardal.

Pan fo busnes newydd yn agor ar y stryd fawr ym Methesda mae'n achos dathlu. Rhaid ymhyfrydu yn hyn ac yn bwysicach cefnogi. Onid yw adeiladau ein stryd fawr yn llawer mwy deniadol fel siopau lliwgar yn hytrach nac fel cregyn gweigion llwydaidd?

Roedd y rhaglen Taro'r Post ar Radio Cymru yn trafod hyn yn bur ddiweddar, ac fe ddywedodd un dyn mai prin iawn yw siopau bach bob dim (ironmongers) erbyn hyn, ond bod Bethesda yn lwcus iawn am fod ganddi un o'r rhain. Ac oes, mae gan Bethesda siop fel hyn ac mae hi'n drysor.

Mae pawb ohonom yn mwynhau mynd ar grwydr i Landudno, Bangor, Caer neu Fanceinion i siopa, ond mae'n bwysig hefyd cofio am siopau Bethesda. Wrth reswm, chewch chi ddim popeth ym Methesda nac yn yr un pentref arall, ond mi gewch bethau buddiol a safonol.

Mae llawer o drigolion yr ardal yn gefnogwyr brwd i'r siopau hyn - mae hynny'n amlwg neu byddai'r siopau wedi cau ers talwm. Ond hwyrach bod 'na rai sydd heb ystyried y gallant siopa ym Methesda. Efallai eu bod yn gweithio y tu allan i'r pentref trwy'r wythnos neu'n anghyfarwydd 芒'r hyn sydd gan ein stryd fawr i'w chynnig. Mae'n rhaid i ni gefnogi'n siopau lleol, neu mi fydd y stryd fawr ar farw.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy