Dyma'r anrhydedd uchaf a roddir gan yr Eisteddfod, a chan bump yn unig y mae'r anrhydedd o fod yn Gymrawd, sef Aled Lloyd Davies, W R P George, Gwilym E Humphreys, J芒ms Niclas, ac yn awr Alwyn Roberts.
Ganed Alwyn yn Llanrwst, ond symudodd y teulu i Benygroes, Arfon lle roedd ei dad, Howell Roberts, yn weinidog Bethel, Penygroes. Aeth Alwyn i Ysgol Dyffryn Nantlle ac oddi yno i golegau Aberystwyth, Bangor a Chaergrawnt.
Yn 1960 ordeiniwyd ef yn weinidog yn Eglwys Bresbyteraidd Cymru ac yna aeth ef a'i briod, Mair yn genhadon i'r India, ac yno roedd Alwyn yn Brifathro Coleg.
Dychwelodd y teulu i Gymru - ganed ei fab, Glyn, yn yr India - a chychwynnodd Alwyn ar swydd newydd yn ddarlithydd yng Ngholeg y Brifysgol yn Abertawe. Dychwelodd i Arfon yn 1970 yn ddarlithydd, yna'n Gyfarwyddwr Efrydiau Allanol, gan gwblhau ei yrfa yn Ddirprwy Brifathro'r Coleg ar y Bryn ym Mangor.
Yn ogystal 芒'i waith academaidd bu Alwyn yn hynod brysur yn y gymuned ac ar fyrddau cenedlaethol. Bu'n aelod o Gyngor Sir Gwynedd ac o Awdurdod Iechyd Gwynedd ac yn 1979 penodwyd ef yn aelod o Fwrdd Llywodraethol y 成人快手 a bu'n fawr ei barch gyda'i farn bob amser yn ddoeth. Bu'n Gadeirydd Cyngor Darlledu y 成人快手 yng Nghymru ac yn un o aelodau cyntaf Bwrdd S4C. Bu'n Gadeirydd Cymdeithas Celfyddydau Gogledd Cymru ac yn Is-gadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru. Cafodd gyfle i fod yn aelod o'r Comisiwn Brenhinol ar Wasanaethau Cyfreithiol ac o'r Bwrdd Par么l. Dyfarnwyd gradd Doethur yn y Cyfreithiau i Alwyn gan Brifysgol Cymru ar sail ei wasanaeth iddi. Llongyfarchwn chi'n gynnes, Alwyn, a diolchwn i chi am roi cymaint o wasanaeth i bob agwedd o'n bywyd fel cenedl. Diolchwn hefyd am y gwasanaeth a roddir i eglwysi'r fro a'r gymuned yng Ngwynedd ac am eich geiriau a'ch barn ddoeth a chytbwys. Anfonwn ein cofion at Mair a'r teulu yn Nhregarth, sef Glyn, eich mab a'i briod, Bethan Catrin, a'r wyrion Lois, Lea a Daniel Glyn. Boed i chi gael iechyd i fwynhau eich ymddeoliad yma yn Nyffryn Ogwen.
|