Tydio erioed wedi bod mewn g锚m b锚l-droed, a wyddoch chi be? Fe enillodd wobr gyda chwmni McDonalds a chael ei ddewis yn un o 22 o blant a gerddai fel mascots allan ar y cae gyda'r p锚l-droedwyr, yn rownd gynderfynol Cwpan y Byd 2006, a gynhaliwyd yn yr Allianz Arena ym Munich, Yr Almaen ar 5 Mehefin.
Timau Ffrainc a Portiwgal oedd yn chwarae y diwrnod hwnnw ac enillodd Ffrainc 1-0.
Daeth Cameron ar y cae gyda th卯m Ffrainc a gafaelai yn llaw Claude Makelele wrth i'r Anthem Genedlaethol gael ei chanu. Roedd 59,000 o gefnogwyr p锚l-droed yn yr arena y diwrnod hwnnw.
Wrth reswm roedd Cameron wedi cyffroi yn llwyr, yn enwedig pan gafodd hefyd gyfarfod a'r enwog Geoff Hurst, arwr t卯m p锚l-droed Lloegr yn 1966.
Braint
Roedd hi'n fraint medda fo i gael cerdded ar y cae gyda ph锚l-droedwyr megis Zinedine Zidane, Patrick Viera a Thierry Henry.
A chan ei fod yn gefnogwr t卯m Manchester United edrychai mlaen i gael cyfarfod 芒 Louis Saha.
Profiad bythgofiadwy
Teithiodd Cameron i'r Almaen gyda'i dad Paul a oedd wedi cynhyrfu llawn cymaint a'i fab!
Profiad bythgofiadwy a phrofiad anhygoel i fachgen bach 7 oed o Rhiwlas.
|