成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llais Ogwan
Arwydd Llifogydd Mis y tywydd mawr!
Chwefror 2004
Rydym yn ffodus nad oedd Llais Ogwan i fod i gyrraedd ein cysodwyr yn Llanrwst ddydd Mawrth, Chwefror 3ydd. Mae'n siwr i chi gyd weld y darluniau dychrynllyd o dref Llanrwst a'r cyffiniau a oedd dan dd诺r yn dilyn stormydd diflino.
Roedd y dref wedi cau am rai dyddiau.Bu'n rhaid i gysodwyr Llais Ogwan, Gwasg Carreg Gwalch gau'r swyddfeydd am ddiwrnod oherwydd iddynt gael chwe modfedd o dd诺r yn llifo i mewn. Disgynnodd chwe modfedd o law mewn 24 awr gan achosi i'r afon Conwy orlifo a chreu llifogydd trychinebus gan foddi caeau cyfan. Gwelsom ddarluniau brawychus ar y teledu o bobl yn gorfod cael eu hachub gan hofrennydd. Truenus hefyd oedd gweld cartrefi pobl dan tua dwy droedfedd o dd诺r a phopeth wedi llwyr ddifrodi, nid unwaith, ond ddwywaith o fewn yr un wythnos.

Hefyd gwelwyd delweddau torcalonnus o'r anifeiliaid druan hynny, yn wartheg ac yn geffylau, wedi'u cau i mewn gan lifogydd. Mae s么n na bu modd achub dau o'r ceffylau hynny.

Yma yn Nyffryn Ogwen, cafwyd llifogydd mewn rhai mannau ac mae nifer o deuluoedd wedi wynebu difrod a llanast yn eu cartrefi. Pan oedd y storm ar ei garwaf yma yn Nyffryn Ogwen ar y dydd Mawrth, roedd y llif yn yr afon Ogwen yn wirioneddol ffyrnig. Profiad dieithr ac eithaf brawychus oedd croesi'r bont fechan o'r stryd fawr i Barc Meurig. Yn wir, roedd rhuthr swnllyd y d诺r islaw yn mynd 芒'ch gwynt. Roedd yr afon fel petai'n berwi. Honnai nifer o drigolion na welsant yr afon mor uchel 芒 hynny ers blynyddoedd.

Diolch na welodd Bethesda lifogydd fel a gafwyd yn Llanrwst ac ardaloedd eraill yng Nghymru.Erbyn hyn, bydd nifer ohonoch yn edrych ymlaen i gael cefnu ar y gaeaf ac yn ysu am ddyfodiad y gwanwyn a'r haf, teimladau sy'n cael eu crisialu yn y llinellau canlynol:
'Doe ysgubai'r noethwynt
Dros farian llwyd y byd -
Gaeaf a'i drai dan droed.

O 'Y Llanw' gan Jenkin Morgan Edwards.

Unwaith daw eto wanwyn
Dolau glas a deiliog lwyn,
A gwe o liwiau gloywon
A wisg frig m芒n wrysg y fron.

O 'Unwaith daw eto wanwyn'
Caniadau, T Gwynn Jones


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy