Dewiswyd Emyr a Christine Roberts, Bryn Derwen Isaf i gynrychioli Cymru yn y gamp ryfeddol hon (nhw oedd yr unig d卯m o Brydain i gael eu dewis).
Yn y lle cyntaf bu'n rhaid i'r beirniaid ddewis dyluniad o gerflun gan ddeg t卯m yn unig.
Apeliodd dyluniad Mr a Mrs Roberts o fam a'i phlentyn yn dwyn yr enw 'Gofal Tyner Cariadus (TLC) ac fe gawsant eu dewis ynghyd 芒 thimau o Ffrainc, yr Eidal, yr Almaen, Sbaen, Dinas Pr芒g a Sweden.
Y cerflunio eira yw uchafbwynt yr W欧l ac mae pob t卯m yn cael ciwb deg troedfedd o eira i wneud cerflun ohono mewn tri diwrnod a hanner.
Maent yn gorfod defnyddio gwahanol fathau o arfau wedi'u haddasu i'r pwrpas gan gynnwys teclyn weiran bigog arbennig a wnaed gan Mr Dafydd Cadwaladr.
Mae Mrs Christine Roberts eisoes wedi cerflunio eira a rhew mewn cystadlaethau yng Nghanada, y Ffindir a Moscow ond dyma'r tro cyntaf i Mr Emyr Roberts gystadlu.
Llongyfarchiadau i chi'ch dau am lwyddo i greu cerflun hynod o gelfydd ac effeithiol mewn amgylchiadau anodd tu hwnt.
Yn ystod eu hamser yng ngogledd Sweden, cafodd Mr a Mrs Roberts ynghyd a'r cerflunwyr eraill wahoddiad i ymweld a'r Gwesty I芒 byd-enwog yn Jukkasj盲rvi.
Pob mis Tachwedd, adeiladir gwesty newydd sbon allan o rew yn Jukkasj盲rvi, gogledd Sweden. Gan ddefnyddio peiriannau arbennig, tynnir y rhew allan o'r afon mewn blociau mawr.
Eir ati wedyn i godi gwesty anferth gyda 50 ystafell wely ynghyd ag eglwys lle cynhelir 150 o briodasau pob gaeaf a sawl bedydd. Mae aros noson yn y gwesty yma yn costio 拢1,000.
Bydd y gwesty'n toddi ym mis Ebrill a rhaid mynd ati i ail-adeiladu gwesty arall bob mis Tachwedd.
Ceir fframwaith o goed fel gwely a chroen carw ar ben hwnnw ynghyd a sach gysgu.
Mae hyd yn oed y goleuadau a'r gwydrau wedi'u gwneud allan o rew. Tymheredd y gwesty yw -6掳C.
Gwahoddwyd. Mr a Mrs Roberts a gweddill y cerflunwyr i'r gwesty oherwydd bod angen cerflunwyr rhew i godi gwesty newydd bob gaeaf. Pwy a Wyr y flwyddyn nesaf . . .