Fe ddaeth dros bum cant i'r Oval ar gyfer g锚m dysteb i'r cyn-beldroediwr, sydd bellach yn dioddef o glefyd motor neuron. Chwaraeodd t卯m cyfansawdd Bangor / Rhyl yn erbyn Caernarfon / Porthmadog (ac un neu ddau o Bwllheli!)
Roedd Haydn wedi chwarae i'r pum clwb yn ystod ei yrfa. Cafodd gyfnodau ym Methesda a Wrecsam hefyd.
Cafwyd ymwelydd annisgwyl i'r Oval ar gyfer y g锚m dysteb hefyd, Wyn Davies, y Cofi a chwaraeodd i Nescastle, Man Utd, man City a Chymru (yn y llun uchod gyda Haydn a Phil, mab Haydn).
Addas iawn oedd hi felly mai Joey Jones, cyn-gefnwr Wrecsam, Lerpwl a Chymru oedd y gwr gwadd mewn cinio arbennig a gynhaliwyd yng Ngwesty Meifod wythnos yn ddiweddarach.
Fe ddaeth bron i dri chant ynghyd i glywed Joey'n hel atgofion am ei ddyddiau ar y cae Ras ac Anfield. Yn cadw cwmni iddo roedd dau o b锚l-droedwyr enwoca Caernarfon, y brodyr Ernie a Tom Whalley.
Yn anffodus chafodd Haydn ei hun ddim bod yn bresennol yn y cinio. Aethpwyd ag ef i'r ysbyty rai dyddiau cyn hynny ond mae'n dda dweud ei fod yn 么l yn cerdded strydoedd y Dre erbyn hyn.
Hoffai trefnwyr y ddwy noson ddiolch o galon i bawb gyfrannodd at eu llwyddiant. Rhennir yr arian a gasglwyd rhwng Haydn, Ymchwil Cancr a Chymdeithas Motor Neuron.
|