Bu'r sgr卯n fawr a drefnwyd gan Gwmni Cyffro yn hynod o boblogaidd a phawb yn canmol yr eitemau a'r datganiadau a welwyd ar y sgr卯n yn Sgw芒r Pendist ac ar y Maes. 'Mi gawsom ni ymateb da iawn gan y cyhoedd a phobl busnes y Dre,' meddai Bob Anderson o Gwmni Cyffro.
Roedd y sgr卯n wedi costio 拢3,500 i'w llogi - gwerth bob dimai, yn 么l Bob.
Cafodd y 'Ffair Nadolig' gryn groeso hefyd, ac er ei bod wedi bod yn bwrw'n drwm am ddeuddydd roedd y perchennog yn ddigon bodlon.
Teulu Jan de Koneing o Wrecsam oedd yn cynnal y ffair - teulu sydd a chysylltiad 芒 Chaernarfon ers blynyddoedd lawer. Nhw arferai gynnal ffeiriau yn yr Hen Bafiliwn erstalwm.
Ac mae Bob yn ffyddiog y byddan nhw'n chwarae ambell CD o ganeuon Nadoligaidd Cymraeg os byddan nhw yma Dolig nesa hefyd!
Bydd union drefn y Dolig nesa, fodd bynnag, yn cael ei benderfynu ar 么l i Cyffro gynnal arolwg ac ymgynghori ymhellach a'r cyhoedd a busnesau'r Dre.
|